Mae grwpiau llywio RhAC yn cynnwys pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a’u nod yw cefnogi cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd. O fewn y meysydd hyn, bydd grwpiau llywio RhAC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd lle gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Yn ystod argyfwng hinsawdd byd-eang, bydd arbenigedd ymchwil Cymru mewn sero net a datgarboneiddio yn allweddol wrth gynorthwyo llywodraethau Cymru a’r DU i gyflawni eu nodau. Mae grŵp llywio Sero Net a Datgarboneiddio Rhwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys meysydd fel hydrogen, diwydiant a dur, niwclear, y gwyddorau cymdeithasol, yr economi gylchol, da byw a ffermio, ac adeiladau’r dyfodol a chynllunio trefol. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys partneriaid allanol sy'n cynrychioli diwydiant a'r amgylchedd.

Cyd-gadeiryddion y grŵp yw’r Athro Ian Mabbett o Brifysgol Abertawe a’r Athro Joanne Patterson o Brifysgol Caerdydd.