Mae grwpiau llywio RhAC yn cynnwys pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru, a’u nod yw cefnogi cydweithredu ym maes ymchwil ac arloesedd sy’n canolbwyntio ar gryfderau craidd. O fewn y meysydd hyn, bydd grwpiau llywio RhAC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd lle gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Mae’r grŵp llywio Iechyd a Llesiant yn canolbwyntio ar ddulliau amlddisgyblaethol o ymdrin â heriau iechyd a llesiant. Mae’r grŵp llywio Iechyd a Llesiant yn dwyn ynghyd arbenigedd ar draws pob un o’r naw prifysgol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar archwilio cyfleoedd cydweithredol yn effeithiol a darparu cydgysylltu gweithredol ymhlith prifysgolion Cymru ar faterion ymchwil ac arloesedd sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant.

Mae gan y grŵp llywio hefyd arsylwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Chanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru.