Daeth arweinwyr ymchwil o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru ynghyd ym mis Awst 2023 i lansio Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru. 

Mae’r Gynghrair yn rhoi cyfle i Gymru gyfan adeiladu partneriaeth ddyfnach a chryfach, sy’n canolbwyntio ar ragoriaeth ymchwil ac arloesedd addysg uwch yn y celfyddydau a’r dyniaethau. Mae’r Gynghrair hefyd yn llwyfan ar gyfer eiriolaeth a gweithredu sydd wedi’u gwreiddio yn ein creadigrwydd, ein harbenigedd a’n sgiliau, yn ogystal â bod yn gyfle i ehangu llais celfyddydau a dyniaethau Cymru ac i gyfrannu at drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar werth Celfyddydau a Dyniaethau Cymru gyfan mewn byd sy'n newid yn gyflym.

Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru wedi sefydlu grŵp llywio gyda chynrychiolwyr o bob un o’r naw prifysgol yng Nghymru a fydd â’r nod o gydweithredu mewn meysydd o gryfderau ymchwil craidd, a chynorthwyo ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa. Bydd grŵp llywio CCDC yn ceisio dod o hyd i gyfleoedd ble gallant, mewn partneriaeth, fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang.

Cadeirydd dros-dro CCDC yw’r Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd.