Microsoft Teams
Bydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn agor y sesiwn gyda throsolwg o'r Ddeddf ac yn rhannu ei flaenoriaethau ar gyfer ymchwil ac arloesedd sy'n cefnogi dyfodol cynaliadwy a theg i Gymru.
Yna byddwn yn clywed gan yr Athro Martin Johnes (Prifysgol Abertawe) a'r Athro Luci Attala (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), a fydd yn cynnig safbwyntiau academaidd ar weithio gyda'r Ddeddf — gan gynnwys llwyddiannau cydweithredol diweddar a mewnwelediadau i sut y gall ymchwilwyr alinio eu gwaith â'i nodau.
Bydd cyfle ar gyfer holi ac ateb tua diwedd y sesiwn.