Cawn glywed gan ddau siaradwr a fydd yn trafod eu teithiau yn ymwneud â chwmnïau deillio. Byddant yn archwilio'r cyfleoedd a'r heriau, a'r hyn y maent wedi'i ddysgu ar hyd y ffordd.
Bydd gennym hefyd bersbectif buddsoddwr, yn esbonio'r hyn y maent yn edrych amdano mewn cwmnïau deillio.
Siaradwyr:
- Yr Athro Matthew Williams, Sylfaenydd a Phrif Wyddonydd yn nisien.ai; athro Troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd
- Dr Jonathan Widdowson, Sylfaenydd ProColl Ltd.; Swyddog Arloesedd a Deillio ym Mhrifysgol Abertawe
- Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa, Banc Datblygu Cymru
Cadeirydd: Dr Ewa Nowicka-Ratajczak, Pennaeth yr Hyb Rhanbarthol, Rhanbarth Cymru a De Orllewin Lloegr yn Rhaglen ICURe Innovate UK
Mae'r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn archwilio sut i gael effaith o'u hymchwil.