Mae Cymru wedi elwa cryn lawer yn sgil cyllido gan yr UE, gyda mwy na 20% o’r holl arian o Gronfeydd Strwythurol Ewrop (ESF) i’r DU yn dod i Gymru. Mae prifysgolion Cymru wedi bod yn rhan allweddol o’r drefn o ran ESF, gan dderbyn dros £290 miliwn yn rhaglen 2014-20 yn eu rôl fel prif bartneriaid. Mae prifysgolion wedi sicrhau budd sylweddol i economi Cymru gyda’r cyllid hwn, gan ei ddefnyddio i wella cydweithredu rhwng prifysgolion, sbarduno ymchwil ac arloesi ac i annog busnesau, myfyrwyr a phobl ifanc eraill i ymwneud â chynlluniau cyfnewid gwybodaeth.

Mae’n ddealladwy bod llawer o fyfyrwyr, academyddion a busnesau sydd wedi bod yn bartneriaid agos yn y prosiectau hyn yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau’r Gronfa Ffyniant a Rennir – cynnig arfaethedig llywodraeth San Steffan yn lle cyllid yr UE.

Credwn ei bod yn hanfodol y dylai’r Gronfa Ffyniant a Rennir ddarparu o leiaf, yr un lefel o gyllid y mae Cymru wedi elwa ohoni fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Dylai penderfyniadau ynghylch sut mae’r arian hwn yn cael ei wario fod wedi’i ddatganoli o’r dechrau i Lywodraeth Cymru, a dylai fod yn seiliedig ar angen yn hytrach na fformiwla Barnett.

Mae rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig y DU wedi’u lleoli yng Nghymru, ac ni fu’r achos dros newid gwirioneddol, trawsnewidiol ar gyfer yr ardaloedd hyn erioed yn bwysicach, yn enwedig yn y cyd-destun presennol. Mae’n hanfodol bod economi Cymru yn cael cymorth i wneud hyn, drwy sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled.

O ystyried profiad helaeth prifysgolion Cymru wrth wneud y defnydd gorau o arian gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, maent mewn sefyllfa gref i gynnig persbectif pwysig ar y gwersi sydd i’w dysgu o’r prosesau hyn. Dylai’r Gronfa Ffyniant a Rennir geisio gwella’r lefel o gydweithredu yn yr hyn sydd eisoes yn grŵp cydweithredol o brifysgolion, lle mae’n briodol gwneud hynny. Dylai geisio gwneud hyn heb ychwanegu biwrocratiaeth, a fyddai’n mygu’r union greadigrwydd a’r arloesedd y dylai geisio ei feithrin a’i annog yma yng Nghymru.

Dylai ganiatáu ar gyfer hyblygrwydd wrth symud ymlaen, i ymateb i’r holl heriau a chyfleoedd y bydd economi Cymru yn eu hwynebu, megis adferiad ar ôl Covid-19, newid yn yr hinsawdd ac awtomeiddio, ymysg pethau eraill. Mae ein prifysgolion yma yng Nghymru, yn enwedig o ystyried eu pwysigrwydd economaidd allweddol yn eu cymunedau, yn cynnig arbenigedd unigryw ar gyfer sbarduno’r newid hwn a pharhau i gyflawni’n lleol ac yn genedlaethol i Gymru wrth i ni ddechrau degawd newydd.

Ni fydd safle blaenllaw’r DU yn y byd byth yn bwysicach. Wrth i’n perthnasoedd masnachu yn y dyfodol â phartneriaid, pell ac agos, ddod yn gliriach, mae’n hanfodol ein bod yn gallu cyflwyno Cymru yn llwyddiannus fel grym ar lefel byd-eang. Heb os, bydd prifysgolion Cymru yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hyn, gan helpu i ddangos Cymru fel y wlad ddeinamig, groesawgar ac arloesol sy’n gyfarwydd i ni, i gydweithwyr a phartneriaid hen a newydd dramor.

Er ein bod ni – a llawer o rai eraill – wedi bod yn glir o’r cychwyn, bod yn rhaid i’r Gronfa Ffyniant a Rennir (neu unrhyw beth a ddaw yn ei lle) wneud dim llai na chynnig yr un lefel o ran cyllido â threfniadau blaenorol, mae cyfle yma i San Steffan gymryd cam beiddgar.

Gwyddom fod addysg yn rym sydd wrth wraidd twf economaidd. Mae amcangyfrifon yn aml yn priodoli 20% o dwf economaidd y DU yn ystod y degawdau diwethaf i well sgiliau ymhlith y gweithlu, ac nid yw’n gyfrinach bod gan wledydd sydd â lefelau uchel o arloesi, hefyd hanes cryfach o ran buddsoddi yn eu systemau addysg uwch. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyfres o fuddsoddiadau sylweddol mewn ymchwil ac arloesi, gan ffurfio rhan greiddiol o’i strategaeth ddiwydiannol.

Mae’r cyfle hwn, ynghyd â’r angen am adferiad cyflym a chadarn o argyfwng Covid-19, yn golygu y bydd y Gronfa Ffyniant a Rennir yn allweddol yn llwyddiant economaidd Cymru – ac mae prifysgolion Cymru yn barod ac yn awyddus i ymateb i’r her, oherwydd mae’r gallu ganddynt.