Diogelu cymunedau a gwarchod amgylcheddau
Gan weithio ochr yn ochr â chwmnïau mwyngloddio ledled y byd, mae'r Athro Wolfgang Maier o Brifysgol Caerdydd wedi helpu i atal adleoli cymunedau lleol, ac mae hefyd wedi helpu i ddiogelu tir sy'n ddiwylliannol sensitif, ac wedi sicrhau arbedion cost enfawr ar yr un pryd.
Wedi'i leoli yn yr Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, mae'r Athro Maier yn arbenigwr mewn dyddodion mwynau magmatig – sef mwynau sy'n cronni y tu mewn i greigiau igneaidd. Gellir mwyngloddio’r creigiau hyn er mwyn defnyddio’r metelau sydd wedi cronni ynddynt.
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae'r Athro Maier a thîm o ddaearegwyr yn y brifysgol wedi bod yn gweithio gyda nifer o gwmnïau mwyngloddio i helpu i fapio lle gallai'r dyddodion hyn fod ar y Ddaear.
Yn bwysicach na hynny, defnyddir eu gwaith hefyd i ragweld lle mae dyddodion yn llai tebygol o ddigwydd, neu lle byddai’n llai proffidiol mwyngloddio am y dyddodion dan sylw. Mae hyn yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn drilio archwiliadol gan ddiogelu cymunedau ac amgylcheddau sy’n lleol i’r mwyngloddiau.