Mae llawer o stociau pysgod yn isel neu dan fygythiad, gan gynnwys pysgod masnachol sydd o bwys byd-eang, fel rhai rhywogaethau o diwna. Mae hyn yn rhannol oherwydd y cafodd ffiniau pysgodfeydd eu gosod yn wreiddiol ar hyd llinellau geowleidyddol, nad ydynt bob amser yn adlewyrchu’n gywir niferoedd a symudiadau poblogaethau o bysgod.

Er enghraifft, mae’r tiwna asgell felen wedi’i restru yn fyd-eang fel rhywogaeth sydd ‘o dan beth bygythiad’. Fodd bynnag, er cydnabyddir bod tiwna yng Nghefnfor India yn cael eu gorbysgota, nid felly tiwna yng Nghefnfor yr Iwerydd.

Er mwyn atal gorbysgota, sicrhau cyflenwad cynaliadwy o fwyd, a diogelu economïau lleol, mae angen data manwl gywir arnom ynghylch pa stociau pysgod sydd o dan fygythiad ac ymhle.

Technegau DNA

Defnyddiodd y tîm ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ddatblygiadau mewn technegau DNA i gynhyrchu diffiniadau genetig (marcwyr DNA) o rywogaethau a stociau pysgod. Gwnaethant weithio gyda rheolwyr pysgodfeydd, asiantaethau'r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol, gan ddefnyddio'r marcwyr DNA i ddiffinio tarddiadau a rhywogaethau pysgod yn fanwl gywir.

Darparodd y tîm ddiffiniadau stoc a chyngor ar gyfer pysgodfeydd pysgod asgellog, pysgod cregyn a seffalopodau yng ngorllewin Cefnfor India, Gogledd-ddwyrain Cefnfor yr Iwerydd (gan gynnwys y DU), Gogledd America, Chile, Brasil, De Affrica ac Angola.

Arweiniodd y diffiniadau genetig a ddarparwyd gan y tîm at newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac mewn polisïau a arweiniodd at welliannau i’r ffordd y caiff pysgodfeydd eu rheoli.

Gwarchod y tiwna asgell felen

Dangosodd astudiaeth y tîm i’r tiwna asgell felen fod y stoc yng Nghefnfor India yn wahanol yn genetig i’r stoc yng Nghefnfor yr Iwerydd ond ei fod yn ymestyn i dde-ddwyrain Cefnfor yr Iwerydd.

Mae ffin cwmpas y pysgod wedi'i phennu gan Gerrynt Benguela yn hytrach na llinellau ffin geowleidyddol y pysgodfeydd. Yng ngoleuni'r darganfyddiad hwn, newidiodd Comisiwn Tiwna Cefnfor India a'r Comisiwn Rhyngwladol dros Gadwraeth Tiwna'r Iwerydd eu ffiniau. Yn ogystal â gwella sut mae’r tiwna asgell felen yn cael ei reoli, newidiodd yr wybodaeth hon ymwybyddiaeth ac arferion sefydliadau eraill, megis Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd.

Pysgota sy’n fwy cynaliadwy

Defnyddiodd Ynysoedd y Falklands ddiffiniadau genetig o'u stociau pysgod i newid eu rheoliadau ar gyfer dalfeydd cynaliadwy. Arweiniodd y newidiadau hyn at welliant mewn cynaliadwyedd a chynnydd yn y gwerth masnachol, sy’n hanfodol oherwydd bod incwm o bysgota yn gyfrifol am 50% o economi’r Falklands.

Mae gwaith y tîm ymchwil wedi dangos i reolwyr pysgodfeydd, llywodraethau a chyrff anllywodraethol sut y gallant reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. O ganlyniad, mae'r tîm wedi cael eu comisiynu i gynnal astudiaethau pellach ar geneteg poblogaethau pysgodfeydd.

Yn y pen draw, mae gwaith y tîm wedi helpu i sicrhau dyfodol rhywogaethau lluosog o bysgod a physgod cregyn yn fyd-eang. Mae hyn yn dwyn buddion economaidd i gymunedau pysgota ac yn helpu i warchod bioamrywiaeth forol.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Paul Shaw a Dr Niall McKeown – Prifysgol Aberystwyth

Partneriaid ymchwil

Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Corc, Bord Iascaigh Mhara (asiantaeth datblygu bwyd môr Iwerddon), Sefydliad Morol Foras na Mara (athrofa ymchwil a datblygu forol Iwerddon), Prifysgol Abertawe

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn