Yn y fideo, mae'r gweinidog yn tynnu sylw at y cyfuniad unigryw o ragoriaeth academaidd, cymunedau cynhwysol, a thirweddau naturiol godidog sy'n gwneud Cymru’n ddewis deniadol i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.

“Mae Cymru’n cynnig mwy na dim ond cyrchfan astudio – mae’n lle y byddwch chi wir yn perthyn iddo,” meddai, gan siarad yn uniongyrchol â darpar fyfyrwyr. “Mae ein prifysgolion a’n colegau’n cyfuno rhagoriaeth academaidd o’r radd flaenaf â chyfleusterau a chyfleoedd ymchwil arloesol sy’n eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn economi fyd-eang heddiw.”

Mae'r neges yn tanlinellu ymrwymiad Cymru i feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol i ddysgwyr rhyngwladol. O brofiadau diwylliannol bywiog i olygfeydd godidog, anogir myfyrwyr i ymgolli ym mhopeth sydd gan Gymru i'w gynnig.

Pwysleisiodd y gweinidog hefyd y rôl bwysig y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei chwarae wrth greu cymunedau prifysgol deinamig:

“Rydych chi'n cyfoethogi ein campysau â safbwyntiau ffres, eich doniau amrywiol, a chysylltiadau byd-eang. Mae eich presenoldeb yn helpu i greu'r awyrgylch bywiog sy'n gwneud prifysgolion a cholegau Cymru’n lleoedd mor gyffrous i ddysgu a thyfu.”

Daw'r neges hon ar adeg pan mae Cymru'n ennill cydnabyddiaeth fyd-eang fel cyrchfan astudio. Mae ymwybyddiaeth ryngwladol o Gymru wedi mwy na dyblu mewn dim ond tair blynedd. Mae'r cynnydd hwn mewn ymwybyddiaeth a diddordeb wedi trosi'n effaith yn y byd go iawn; yn ôl data cofrestru myfyrwyr HESA, Cymru brofodd y twf uchaf yn nifer y myfyrwyr yn y DU rhwng 2020/21 a 2023/24, gan berfformio'n well na gweddill y DU yn ei gwledydd partner allweddol, sef India ac UDA.

Dim ond un elfen yw’r fideo, sydd ar gael i'w wylio ar wefan Astudio yng Nghymru, o ymgyrch ehangach i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan astudio groesawgar a chystadleuol yn fyd-eang, gyda chefnogaeth Cymru Fyd-eang a'u partneriaid.