Mae technoleg yn datblygu'n gyflym. Gall deallusrwydd artiffisial (AI) bellach ryngweithio â ni a mesur ein cyflwr emosiynol. Er enghraifft, gall ddweud p’un a ydym yn teimlo dan straen neu’n ddig. Mae hyn yn helpu’r dechnoleg i ymgysylltu â ni mewn ffordd fwy ystyrlon.

Fodd bynnag, mae angen i ni ddeall goblygiadau sut mae AI yn cael ei ddefnyddio gan fod ganddo’r potensial i achosi niwed moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol.

Deallusrwydd artiffisial emosiynol

Yn dilyn ei ymchwil cychwynnol i foeseg preifatrwydd, trodd yr Athro McStay i edrych ar gyfryngau empathig technolegau a all fesur sut rydym yn teimlo. Yna, datblygodd y syniad o ddeallusrwydd artiffisial emosiynol (eAI).

Ymchwiliodd i agweddau tuag at eAI ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol, UDA, Rwsia a De Corea, ac ymhlith dinasyddion y DU (y darganfu eu bod yn pryderu am y defnydd posibl o’r technolegau hyn).

Trwy ei ymchwil, edrychodd yr Athro McStay ar:

  • y cysyniad o eAI, ei natur, ac arwyddocâd cymdeithasol cynyddol 
  • ystod a natur y sefydliadau sy’n mynd ar drywydd eAI ac yn ei gymhwyso  
  • safonau ac amddiffyniadau dinesig
  • pryderon pobl am yr hyn sy’n digwydd gyda thechnolegau sy’n casglu ac yn defnyddio data am eu hemosiynau.

Dylanwadu ar ddyluniad a chymhwysiad eAI

Mae ymchwil yr Athro McStay wedi llywio a dylanwadu ar ddyluniad a chymhwysiad eAI ym mhedwar ban byd ac wedi chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth ryngwladol o foeseg data.

Gan weithio gyda rhanddeiliaid y DU a’r Unol Daleithiau, cyd-greodd yr Athro McStay feincnodau moesegol cyntaf y byd ar gyfer eAI, ac mae ei waith wedi helpu i lywio penderfyniadau ar foeseg eAI ar draws adrannau llywodraeth y DU, rheoleiddwyr a chwmnïau preifat – yma yn y DU ac yn UDA.

Mae hefyd wedi helpu i egluro hawliau preifatrwydd ar gyfer Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol ac wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio rhaglen gŵyl gelfyddydol ryngwladol i ysbrydoli artistiaid a hysbysu dinasyddion.

Mae gwaith yr Athro McStay ar eAI wedi’i ddyfynnu’n eang, gan gynnwys yn adroddiad Canolfan Data, Moeseg ac Arloesi Llywodraeth y DU Online Targeting, lle cafodd y rhestr wirio a ddatblygodd ei chynnwys fel enghraifft o arfer gorau.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Andrew McStay – Prifysgol Bangor

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn