“Hoffwn ddiolch i’r Athro Iwan Davies am ei gyfraniad sylweddol a hirsefydlog i addysg uwch yng Nghymru.

“Mae cyfraniadau Iwan wedi bod yn helaeth, gan gynnwys arwain datblygiadau newydd mewn addysg uwch rhyngwladol a helpu i sefydlu rôl Cymru ar lwyfan y byd.

“Rwy’n siŵr y bydd fy holl gydweithwyr o bob rhan o’r sector yn ymuno â mi i ddymuno’r gorau i Iwan ar gyfer y dyfodol.”