“Llongyfarchiadau i bawb sy’n casglu eu canlyniadau heddiw.

“Mae hwn yn ddiwrnod hollbwysig i fyfyrwyr, a dylent fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni, ac o’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd wedi dod â nhw i’r cam hwn. Gall myfyrwyr nawr edrych ymlaen at gam nesaf eu taith, a fydd i lawer yn golygu astudio yn y brifysgol.

“Gall mynd i’r brifysgol fod yn brofiad gwirioneddol drawsnewidiol; un sy’n agor drysau, yn ehangu gorwelion, ac yn grymuso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.  Gall myfyrwyr sy’n ymuno â phrifysgolion Cymru yn yr hydref fod yn sicr o gael profiad o ansawdd uchel gyda myfyrwyr yn ganolog iddo, ac un sy’n rhoi pob cymorth iddyn nhw gyflawni eu huchelgeisiau.

“I’r rhai sy’n dal heb benderfynu neu efallai na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, mae llawer o opsiynau yng Nghymru ar gael trwy’r system glirio. Mae gan ein prifysgolion gynghorwyr yn aros i weithio gyda darpar fyfyrwyr a thrafod yr opsiynau sydd ar gael iddynt."

Mae cyngor pellach ar gael gan UCAS. Gallwch gysylltu â’r canolfannau clirio ar gyfer prifysgolion yng Nghymru trwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Y Brifysgol Agored Cymru 

Nid yw’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gweithredu canolfan glirio. Mae cofrestru ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau fis Hydref 2024 yn cau ar 5 Medi 2024.

Prifysgol Abertawe

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Wrecsam