"Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr sy’n cael eu canlyniadau heddiw.

"Mae heddiw'n ddiwrnod pwysig i lawer o fyfyrwyr. Dylai'r rhai sy'n derbyn eu canlyniadau fod yn hynod falch o'r hyn y maent wedi'i gyflawni a'r dyfalbarhad a'r gwytnwch a ddangoswyd ganddynt.

"Gall myfyrwyr edrych ymlaen nawr at y cam nesaf ar eu taith, ac i lawer, bydd hynny’n cynnwys astudio yn y brifysgol.

"Mae’n hyfryd gweld bod cymaint o bobl ifanc yng Nghymru yn parhau i werthfawrogi manteision addysg prifysgol, ac rydym wrth ein boddau bod myfyrwyr yn dal i gydnabod y ddarpariaeth arbennig a’r cyfleoedd unigryw sydd gan brifysgolion yng Nghymru i’w cynnig.

"Ar gyfer y rhai na chafodd y canlyniadau roedden nhw’n gobeithio eu cael, neu sy’n dal heb benderfynu ar eu cam nesaf, mae llawer o opsiynau yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr drwy’r broses glirio. Mae Prifysgolion ym mhob rhan o Gymru yn darparu lleoedd drwy’r broses glirio ac mae ganddynt dimau derbyn sy’n barod i gynghori myfyrwyr ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw."

Gellir cael cyngor pellach gan UCAS. Gallwch chi gysylltu â chanolfannau clirio ar gyfer y prifysgolion yng Nghymru drwy ddefnyddio’r dolenni isod:

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Abertawe

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam