"Gall myfyrwyr fod yn falch o'u gwaith caled dros yr hyn sydd wedi bod yn ddwy flynedd heriol, a gallant nawr edrych ymlaen at y cam nesaf ar eu taith, a fydd, i lawer, yn cynnwys astudio yn y brifysgol.

"Mae'n wych gweld bod cymaint o bobl ifanc yng Nghymru yn parhau i osod gwerth ar fanteision mynd i’r brifysgol, a rydym wrth ein bodd bod myfyrwyr yn parhau i gydnabod y cyfleoedd unigryw y mae prifysgolion yng Nghymru’n eu cynnig.

"I'r rhai na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, neu sydd heb benderfynu eto, mae yna lawer o opsiynau yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr trwy’r system glirio. Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu lleoedd trwy glirio, ac mae ganddyn nhw ymgynghorwyr yn aros i gynghori myfyrwyr ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.

"Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru, a gall y rhai sy’n ymuno â ni yn yr hydref edrych ymlaen at groeso cynnes, cyrsiau gwerth chweil o ansawdd uchel a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr."

Mae cyngor pellach ar gael gan UCAS. Gallwch gysylltu â’r canolfannau clirio ar gyfer prifysgolion yng Nghymru trwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Abertawe

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam