Datganiad ar Ddiwrnod Canlyniadau Safon Uwch
Wrth sôn am ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru:
13 August 2020
“Llongyfarchiadau i’r holl fyfyrwyr a gasglodd eu canlyniadau heddiw.”
“Mewn amgylchiadau heriol, mae myfyrwyr wedi dangos eu bod yn wydn, yn ymroddedig ac yn barod i addasu, a gallant nawr edrych ymlaen at y cam nesaf ar eu taith, a fydd, i lawer, yn cynnwys astudio yn y brifysgol. Mae’n wych gweld bod cymaint o bobl ifanc yng Nghymru yn parhau i osod gwerth ar fanteision mynd i’r brifysgol, gyda chyfran y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru sy’n gwneud cais i astudio yn y brifysgol yn uwch nag erioed.
“I’r rhai na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, neu sydd heb benderfynu eto, mae yna lawer o opsiynau yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr trwy’r system glirio. Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu lleoedd trwy glirio, ac mae ganddyn nhw gynghorwyr yn aros i gynghori myfyrwyr ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.”
“Daeth prifysgolion Cymru i’r brig neu’n gydradd uchaf mewn mwy o gategorïau nag unrhyw ran arall o’r DU yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni, a gall myfyrwyr sy’n cychwyn yn y brifysgol yng Nghymru’r hydref hwn fod yn hyderus y byddant yn elwa o gyrsiau gwerth-chweil o ansawdd uchel, yn ogystal â phrofiad myfyrwyr sydd ymhlith y gorau, a fydd yn eu helpu i gyflawni eu potensial.”
Mae cyngor pellach ar gael gan Astudio yng Nghymru neu ar-lein UCAS. Gallwch gysylltu â’r canolfannau clirio ar gyfer prifysgolion Cymru trwy ddefnyddio’r dolenni isod:
Prifysgol Metropolitan Caerdydd