Roedd 11eg Hydref 2024 yn ddiwrnod ysbrydoledig ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS) wrth i ni lansio Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA). Caiff WAHA ei hwyluso gan Rwydwaith Arloesedd Cymru ac mae’n cwmpasu pob un o'r naw prifysgol yng Nghymru; mae’n rhoi cyfle i Gymru gyfan adeiladu partneriaethau dyfnach a chryfach, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth trwy ragoriaeth ymchwil ac arloesedd yn y celfyddydau a'r dyniaethau mewn addysg uwch. Roedd y diwrnod hwn i WAHA yn fenter wirioneddol gydweithredol, dan arweiniad ein cydweithwyr Mary-Ann Constantine, Athro/Arweinydd Prosiect yn CAWCS, a Dr Patrick Finney, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dechreuodd y digwyddiad gyda phedwar cyflwyniad rhagorol ar brosiectau ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant – yn amrywio o rwydwaith ymchwil Creu Man Diogelach ar ddiogelwch sifiliaid mewn ardaloedd rhyfel, dan arweiniad yr Athro Berit Bliesemann de Guevara, i brosiect MOST BRIDGES - UNESCO a straeon arfordirol o Gymru, a gyflwynwyd gan yr Athro Louise Steel.

Dyma rai mewnwelediadau allweddol o’r trafodaethau cymunedol:

· Grym a gwerth dulliau cydgynhyrchu cymunedol a chelfyddydau creadigol i wrando a dysgu oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn ymchwil – o’r plwyfol i’r byd-eang.

· Pwysigrwydd edrych y tu hwnt i ffiniau disgyblaethol traddodiadol ar gyfer amrywiaeth a chymhathu ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar draws ein sector. Buom yn siarad am edrych y tu allan i'n 'bwcedi' disgyblaethol arferol.

· Gwerth eirioli dros arbenigrwydd ymchwil ac arloesedd Celfyddydau a Dyniaethau Cymru, a’n hymrwymiad ar y cyd i genedlaethau’r dyfodol mewn polisi ac ymarfer.

Yn y prynhawn, cynhaliwyd trafodaeth bwrdd-crwn hybrid gyda’n chwaer sefydliadau, Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau’r Alban, Cynghrair Dyniaethau’r Iwerddon a’r Academi Brydeinig.

Cafwyd trafodaethau goleuedig ynghylch sut y gallwn 'gyflwyno’r achos' dros y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn fwy effeithiol a sut y gallwn eirioli gydag effaith. Y pwyntiau allweddol oedd:

· Gwerth gweithio’n agos gyda llunwyr polisi a sefydliadau gwladwriaethol – datganoledig, y DU a byd-eang – i ddylanwadu a chyfrannu at ddadleuon a phenderfyniadau ar bolisi ymchwil a seilwaith.

· Yr angen i fod yn sensitif i 'ddaearyddiaethau cydweithio'.

· Sut mae angen i ni bob amser fod yn ystyriol o negeseuon - bod yn gyson ac yn glir yn ein cyfathrebu.

· Sut mae angen i ni gyflwyno’r achos dros y Celfyddydau a’r Dyniaethau mewn ffyrdd a geiriau sy’n alinio â’n cyd-sgwrswyr – a gall hynny olygu mewn termau economaidd weithiau.

· Grym darganfod, proffilio a chyfathrebu amrywiaeth ac arwyddocâd y Celfyddydau a’r Dyniaethau i sectorau allweddol, gan ddefnyddio straeon graddedigion i ddangos ehangder a dyfnder y llwybrau proffesiynol a’r hyn y mae ein myfyrwyr wedi’i gyflawni.

Roedd yn ddiwrnod bendigedig i ddathlu llwyddiannau presennol a chynllunio ar gyfer rhai newydd gyda theimlad brwd o uchelgais a momentwm rhwydwaith ‘tîm Cymru’ ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Gallwch wylio recordiad o’r drafodaeth bwrdd-crwn a gafwyd yn y prynhawn yma