Roedd ymchwil ac arloesedd prifysgolion Cymru dan y chwyddwydr ddoe wrth i uwch swyddogion o bob rhan o’r byd ymgasglu ym Mrwsel i gael cipolwg ar y sector ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi Brwsel 2024 Llywodraeth Cymru.

Trefnwyd y digwyddiad ar 28ain Chwefror gan Rwydwaith Arloesedd Cymru (RhAC) ac Addysg Uwch Cymru Brwsel (WHEB), gyda chymorth rhaglen Cymru Fyd-eang (a ariennir gan Taith); y nod oedd tynnu sylw at gryfder ac ehangder yr ymchwil ac arloesedd sy’n digwydd ym mhrifysgolion Cymru. .

Roedd y digwyddiad yn pwysleisio ymroddiad Cymru i weithio gyda phartneriaid ar draws Ewrop, yn ogystal â dathlu cysylltiad y DU â rhaglen Horizon. Mae prifysgolion Cymru wedi parhau i sefydlu eu presenoldeb yn Ewrop trwy swyddfa WHEB a mentrau megis y bartneriaeth rhwng FWO (Sefydliad Ymchwil Fflandrys) a Chymru Fyd-eang.

Roedd y derbyniad yn gyfle i arddangos cryfderau ymchwil ac arloesedd Cymru, gan gynnwys datgarboneiddio, technoleg amaeth, a thechnoleg lled-ddargludyddion. Mae’r rhain yn feysydd lle gall Cymru fod wrth galon ymchwil ac arloesedd Ewropeaidd, gan gynnig cyfleoedd allweddol ar gyfer partneriaeth i hybu’r economi a chymdeithas yn y gwledydd hynny.

Mewn araith i’r rhai a oedd yn bresennol, oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, arweinwyr prifysgolion, ac arweinwyr meddwl yn y sector ymchwil ac arloesedd gan gynnwys Matthias De Moor, Cynrychiolydd Cyffredinol Fflandrys i’r UE, tynnodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, sylw at barodrwydd Cymru i gymryd rhan weithredol yn Horizon Europe, gan ddefnyddio ei doniau amryfal, ei hadnoddau, a’i syniadau i sbarduno mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a chymdeithas.

Meddai’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford ASC, Prif Weinidog Cymru:

“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda y maent yn cynnal ymchwil yr ystyrir ei fod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol. Mae partneriaeth a chydweithio wrth wraidd y llwyddiant hwn – nid yw arloesedd yn digwydd ar ei ben ei hun.”

“Tra bod y pandemig a Brexit wedi effeithio ar gysylltiadau byd-eang llawer o ymchwilwyr, mae prifysgolion Cymru’n parhau i fod wedi ymrwymo i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd. Nawr ein bod yn gwbl gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe, mae gennym gyfle sylweddol i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, denu doniau byd-eang a chyflawni gwyddoniaeth ac arloesedd sydd ar flaen y gad, a all ddod â buddion diriaethol i gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.”

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe a Chadeirydd Prifysgolion Cymru a RhAC:

“Yng Nghymru, mae gennym draddodiad hir o ymwneud yn effeithiol â rhaglenni’r UE, ac rydym yn falch o gryfder cydweithio ar draws ein gwlad, o fewn y DU a chyda phartneriaid yn fyd-eang. Rwyf wrth fy modd ein bod, trwy’r digwyddiad hwn ym Mrwsel, wedi gallu arddangos effaith yr ymrwymiad hwn i bartneriaeth, tra’n dangos amrywioldeb sector ymchwil ac arloesedd Cymru.

“Rydym yn parhau i fod yn awyddus i gydweithio â phartneriaid Ewropeaidd, yn dilyn ymgysylltiad y DU â Horizon Europe, a - thrwy hyrwyddo cydweithredu, croesawu amrywioldeb, a sbarduno arloesedd - rydym yn hyderus y gall y sector ymchwil ac arloesedd yng Nghymru barhau i wneud cyfraniad sylweddol at lunio'r dirwedd ymchwil fyd-eang.”

Roedd y digwyddiad yn gyfle i Rwydwaith Arloesedd Cymru arddangos y gwaith y mae’n ei wneud i bartneriaid Ewropeaidd. Mae RhAC yn drefniant cydweithredol arloesol rhwng prifysgolion yng Nghymru sy’n hwyluso cydweithio ar draws prifysgolion Cymru, gan harneisio amrywiaeth ymchwil ac arloesedd yng Nghymru i greu effaith economaidd a chymdeithasol ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.