Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar WonkHE

Yn sgil canlyniad yr ornest am arweinyddiaeth Llafur Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 16eg Mawrth, cafodd Vaughan Gething ASC ei ethol i fod yn Brif Weinidog Cymru, yn dilyn pleidlais yn y Senedd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ef fydd y pumed Prif Weinidog ers datganoli yng Nghymru ym 1999, sy’n golygu mai Cymru sydd â’r trosiant isaf mewn arweinwyr cenedlaethol o unrhyw un o bedair gwlad y DU.  Bydd yn dilyn Mark Drakeford ASC, sydd wedi bod yn y swydd ers 2018, ac efallai wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran gwelededd cyhoeddus o’i gymharu ag unrhyw Brif Weinidog blaenorol.

Gyda Chymru ar fin cael arweinydd newydd, mae'n codi'r cwestiwn: beth mae hyn yn ei olygu i brifysgolion?

Ymgysylltu â phrifysgolion

Mae gan Vaughan Gething hanes hir o weithio gyda phrifysgolion. Bu'n Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth cyn dod yn Llywydd UCM Cymru yn 1997, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n ymgyrchu dros ddatganoli. Mae wedi cynnal perthynas gadarnhaol ag UCM Cymru dros y blynyddoedd a thraddododd y brif araith yng nghinio dathlu’r mudiad yn 40 oed.

Yn ei swydd, ei ymgysylltiad helaethaf â phrifysgolion fu fel Gweinidog yr Economi. Roedd y portffolio hwnnw’n cynnwys cyfrifoldeb am ymchwil ac arloesedd, sgiliau, a phrentisiaethau (gyda phrentisiaethau gradd yn gyfrifoldeb ar y cyd ag Addysg).

Bu arloesedd yn ffocws yn y blynyddoedd diwethaf; yn bennaf trwy ddatblygiad Strategaeth Arloesedd Llywodraeth Cymru ('Cymru'n Arloesi'), a oedd yn ymrwymiad a wnaed fel rhan o’r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Ymrwymiadau maniffesto

Adlewyrchir llawer o'r themâu yn 'Cymru'n Arloesi' ym Maniffesto Vaughan Gething: o arloesedd mewn gofal iechyd i ffocws ar ynni glân ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu uwch, gan gynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd, a'r diwydiannau creadigol hefyd yn cael sylw amlwg yn y ddwy ddogfen.

Mae pwyslais anochel ar nifer ac ansawdd swyddi a maint yr economi: her barhaus i Gymru gyda lefelau hanesyddol isel o gynhyrchiant a adlewyrchir ar draws cyflogau, buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu a cholli talent i rannau eraill o’r DU.

Yn achos y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY), a dderbyniodd ei Ddatganiad o Flaenoriaethau Llywodraeth Cymru rai wythnosau’n ôl, mae yna awgrym y gallai fod newid mewn disgwyliadau, gyda’r maniffesto’n ymrwymo i ‘strwythuro CADY i ganolbwyntio ar themâu trawsbynciol megis dysgu gydol oes a sgiliau gwyrdd'.

Un o themâu craidd y maniffesto yw 'Dyfodol Uchelgeisiol' sy'n rhoi sylw penodol i gyfleoedd addysgol ar bob oedran a chyfnod o fywyd. Bydd hon yn her allweddol. Fel y mae Prifysgolion Cymru wedi’i amlygu’n flaenorol, mae’r bwlch cyfranogiad addysg uwch rhwng Cymru a’r DU yn ehangach nag ar unrhyw adeg ers 2006, sef y pwynt data cymaradwy cynharaf. Ar yr un pryd, mae cyfranogiad pobl ifanc 16 oed mewn addysg a hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith yng Nghymru wedi gostwng 10 pwynt canran ers 2017, sy’n golygu bod cyfran lai o bobl ifanc yn gallu symud i fyny’r ysgol sgiliau.

Gwneud iawn am gyllid yr UE

Mae llawer o’r meysydd o fewn cylch gwaith Vaughan Gething fel Gweinidog yr Economi – megis ymchwil ac arloesedd, prentisiaethau, a sgiliau – wedi dibynnu’n helaeth yn y gorffennol ar fuddsoddiad o Gronfa Strwythurol yr UE ac, ers i ni ymadael â’r UE, maent wedi wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i hynny Derbyniodd prifysgolion dros £300m mewn arian Ewropeaidd fel prif bartneriaid mewn prosiectau yn ystod y cyfnod ariannu diwethaf (2014-2021). Cynhaliwyd y prosiectau hyn ledled Cymru, ac oeddent yn ymwneud â meysydd fel gweithgynhyrchu uwch, cydweithredu â busnesau, datblygu sgiliau gyda busnesau bach a chanolig, a dal a storio ynni. Rhoddwyd cydnabyddiaeth i bwysigrwydd y gwaith hwn yn Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, a oedd yn nodi sut y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian a fyddai’n dod yn lle’r hyn a gollwyd.

Mae maniffesto Vaughan Gething yn pwysleisio Ymrwymiad Keir Starmer yng nghynhadledd Llafur Cymru yn 2023 i ddatganoli’r arian hwn i Lywodraeth Cymru ac yn amlygu sut y byddai’r arian hwnnw’n cefnogi cronfa ‘Gwaith Teg’ a hefyd yn dychwelyd buddsoddiad a gollwyd i brentisiaethau. Cwestiwn allweddol i brifysgolion yw a fydd yr arian hwnnw hefyd yn cael ei defnyddio i liniaru colli capasiti a swyddi ym maes ymchwil ac arloesedd o ganlyniad i golli arian o gronfa strwythurol yr UE. 

Cabinet newydd

Er bod maniffesto Vaughan yn nodi'r ymrwymiadau ar y lefel uchaf, bydd yr hyn y maent yn ei olygu i brifysgolion yn dibynnu ar strwythur y Cabinet - lle mae cyfrifoldebau'n disgyn rhwng rolau - a phwy sydd ym mhob rôl. Mae addysg uwch, addysg bellach, sgiliau, ac ymchwil i gyd, ar wahanol adegau, wedi bod yn gyfrifoldeb Gweinidogion neu Ddirprwy Weinidogion ar draws addysg a’r economi.

Er nad wyf yn ddigon annoeth i ddyfalu pwy all fod yn Weinidog Addysg, bydd pwy bynnag ydyw yn gyfrifol am raglen ddiwygio helaeth sydd eisoes ar y gweill gyda sefydlu’r CADY ynghyd ag ystod o heriau ar draws yr amgylchedd addysg, gan gynnwys cyfranogiad isel a’r pwysau ariannol anodd y mae sefydliadau yn eu hwynebu.

Sefyllfa prifysgolion

Mae’n gyfnod ansicr i brifysgolion Cymru gyda chwtogi ar gyllido cyhoeddus, amgylchedd costau anodd, pryderon ynghylch recriwtio rhyngwladol, a heriau sylweddol o ran cyfranogiad ymhlith pobl ifanc Cymru.

Tra bod y newid polisi a ddaw yn sgil arweinyddiaeth newydd bob amser yn cynnig cyfleoedd a risgiau, mae llawer o’r pwysau a wynebwn yn allanol i Gymru ac, mewn rhai achosion, y DU.

Ond mae'r uchelgeisiau a amlinellwyd ym maniffesto Vaughan Gething yn rhai y mae prifysgolion Cymru mewn sefyllfa dda i'w cefnogi. Boed hynny’n ddefnyddio arbenigedd ymchwil ac arloesedd prifysgolion Cymru i adeiladu’r economi werdd neu arloesi yn y sector cyhoeddus, neu’n defnyddio cryfderau allforio prifysgolion, sy’n cyfrif am 12% o allforion sector gwasanaethau Cymru, i gefnogi twf a swyddi.

Ac wrth wraidd hyn mae mater canolog y cyfleoedd sydd gan bobl ifanc, sut i godi dyheadau cymunedau yng Nghymru, a dynodi sut yr ydym yn mynd i’r afael â’r her cyfranogiad mewn addysg, sy’n fater brys a hollbwysig i ddyfodol cymdeithasol ac economaidd Cymru.