Fel rhan o’r Wythnos Dystiolaeth yn y Senedd, tynnodd yr Athro Woods sylw at ffactorau allweddol sy’n llywio penderfyniadau pobl ifanc i symud i ffwrdd o’u hardaloedd lleol, a rhannodd argymhellion ar gyfer ymyriadau polisi a all helpu mwy o bobl ifanc i aros. Daeth y canfyddiadau yn sgil arolwg o dros 1,000 o bobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.

Cyflwynodd yr Athro Woods ei ganfyddiadau i’r ASau Cymreig Ann Davies, Ben Lake, Catherine Fookes, David Chadwick a Liz Saville-Roberts, a’r Arglwydd Davies o Benrhyn Gŵyr ymhlith eraill, gan eu darparu â gwybodaeth hanfodol i lywio’r penderfyniadau a wnânt ar bolisïau’r dyfodol.

Mae’r Wythnos Dystiolaeth yn ddigwyddiad blynyddol unigryw sy’n dod â’r cyhoedd, seneddwyr ac ymchwilwyr o bob rhan o’r DU ynghyd i drafod sut y gall tystiolaeth o ymchwil blaenllaw fod yn sail i lunio polisïau yn Senedd San Steffan.

Manteisiodd yr Athro Woods ar y cyfle hefyd i hysbysu ASau ac Arglwyddi am ei waith gyda Phartneriaeth Polisi Lleol ac Arloesedd (PPLlA) Cymru Wledig, a sefydlwyd i gysylltu ymchwil â pholisi ar gyfer y Gymru wledig. Yn ogystal â hwyluso cyfnewid gwybodaeth fel yn yr Wythnos Dystiolaeth, mae PPLlA Cymru Wledig hefyd yn casglu ac yn dadansoddi data newydd i fynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth llunwyr polisi, yn cynnal Labordai Arloesedd i archwilio datrysiadau i heriau polisi, ac yn helpu cymunedau i gynnal eu hymchwil eu hunain ynghylch pryderon lleol. Cefnogwyd datblygiad PPLlA Cymru Wledig, sydd wedi derbyn grant o £5m gan sefydliad Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), gan gyllid sbarduno gan Rwydwaith Arloesedd Cymru.

Meddai’r Athro Michael Woods, Cyfarwyddwr Partneriaeth Polisi Lleol ac Arloesedd Cymru Wledig:

“Mae’r her o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i symud i ffwrdd o ardaloedd gwledig ar gyfer cyflogaeth, addysg neu dai yn un a gydnabyddir gan yr holl wleidyddion y buom yn siarad â nhw. Roedd yr Wythnos Dystiolaeth yn gyfle gwych i drafod yr hyn y mae ymchwil yn ei ddweud wrthym am y duedd hon gydag ASau ac Arglwyddi ac i rannu data etholaeth-benodol â nhw. Roeddem yn gallu egluro sut y gall polisïau wedi’u targedu, megis gwella trafnidiaeth gyhoeddus a hybu entrepreneuriaeth, helpu i roi cyfleoedd i bobl ifanc aros. Hoffwn ddiolch i Sense about Science a Rhwydwaith Arloesedd Cymru am ein galluogi i gymryd rhan yn yr Wythnos Dystiolaeth.”

Meddai Dr Lewis Dean, pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r Athro Woods trwy fynychu’r Wythnos Dystiolaeth, lle cyflwynodd ei ymchwil ar allfudiad pobl ifanc o ardaloedd gwledig - mater hollbwysig sy’n effeithio ar ffyniant a chynaladwyedd y cymunedau hyn. Mae ei astudiaeth yn nodi’r ffactorau allweddol sy’n peri i bobl ifanc adael ardaloedd gwledig ac yn archwilio ymyriadau polisi posibl i wrthdroi’r duedd. Mae cysylltu ymchwilwyr a deddfwyr yn galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau cynhwysol sy’n mynd i’r afael â’r heriau unigryw a wynebir gan ardaloedd gwledig, yn adlewyrchu eu hanghenion penodol, ac yn sicrhau eu gwydnwch a’u twf hirdymor.”

Mae’r Wythnos Dystiolaeth, sydd bellach yn ei seithfed blwyddyn, yn cael ei chynnal gan yr elusen ymgyrchu Sense about Science a’r Swyddfa Seneddol er Gwyddoniaeth a Thechnoleg, mewn partneriaeth â Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi, Ipsos, y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau a sefydliadau ymchwil o bob rhan o’r DU. Yn ystod yr wythnos, mae ASau yn cyfarfod â gwyddonwyr blaenllaw i gael y mewnwelediad diweddaraf ar faterion dybryd sy'n ymwneud â phynciau mor amrywiol â Deallusrwydd Artiffisial, addysg, llygredd, iechyd, ac ardaloedd gwledig. Mae’n gyfle i’r cyhoedd, seneddwyr, ac ymchwilwyr ddod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a mewnwelediadau. Mae’n rhoi cyfle i ddeddfwyr ymwneud â thystiolaeth ac yn eu darparu â’r offer hanfodol i ymdrin ag ansicrwydd, nodi rhagfarn a chraffu ar ragdybiaethau sylfaenol.

Meddai Tracey Brown, Cyfarwyddwr Sense about Science

“O’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn ysgolion i effaith llygredd golau mewn cynefinoedd morol, mae ansawdd yr ymchwil a’r dystiolaeth a ddefnyddir ac a gyflwynir yn effeithio ar a yw polisïau a chyfreithiau’n gwneud synnwyr. Rydym wrth ein bodd bod ASau yn cael y cyfle i glywed a dysgu’n uniongyrchol gan ymchwilwyr blaenllaw ledled y DU am wneud gwell defnydd o dystiolaeth ymchwil yn Wythnos Dystiolaeth Senedd San Steffan. Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf a chadw’n gyfoes â chanfyddiadau ymchwil yn bwysig i ASau, sy’n gorfod deddfu, craffu ar waith y llywodraeth, a deall y materion sy’n effeithio ar eu hetholwyr.”