Mae iechyd a llesiant myfyrwyr wedi bod yn flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru ers amser maith.

Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd o 450%. yn nifer y myfyrwyr sy’n datgan cyflwr iechyd meddwl ar eu cais i’r brifysgol – ac roedd hynny cyn i’r pandemig Covid-19 daro gyda’i oblygiadau i iechyd meddwl pawb.

Er ei bod yn bwysig cofio bod myfyrwyr yn rhan o’r boblogaeth ehangach, ac yn profi heriau iechyd meddwl yn yr un ffordd â gweddill y gymdeithas i bob diben, rhaid i ni gofio hefyd fod rhai pwysau ac amgylchiadau unigryw y dylid eu cynnwys o ran y ddarpariaeth o addysg a gwasanaethau iechyd. Mae’r system yn ei chyfanrwydd yn hanfodol i sicrhau y gall myfyrwyr lwyddo mewn addysg uwch.

Gyda hyn mewn golwg, ac yn wyneb pwysau cynyddol ar adnoddau sydd eisoes dan straen yn sgil y pandemig, ffurfiodd Prifysgolion Cymru weithgor gyda mewnbwn gan UCM Cymru, ColegauCymru ac AMOSSHE (Sefydliad Gwasanaethau Myfyrwyr) i ddatblygu rhai cynigion polisi i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig dod ag addysg uwch ac addysg bellach ynghyd i ddatblygu’r cynigion hyn, gan fod Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) (fel yr oedd) wedi’i osod gerbron y Senedd, gyda chynlluniau i ddod â’r sector trydyddol at ei gilydd wrth symud ymlaen. 

Mae’r argymhellion yn amlygu meysydd y gellid eu datblygu i wella cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys profiad cyfartal i fyfyrwyr – h.y. cydnabod eu bod yn rhan o'r gymdeithas ehangach – cymorth ar gyfer pontio, deall rôl a chylch gorchwyl gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau cymorth prifysgolion, rhannu gwybodaeth yn effeithiol, a chyllido cynaliadwy, hirdymor. 

Cafodd Prifysgolion Cymru gyfle i ail-gyflwyno pob un o’r argymhellion hyn yn ein tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPPIA) y Senedd ym mis Tachwedd y llynedd.

Adroddiad y PPPIA ar gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch, gyda 33 o argymhellion eang i Lywodraeth Cymru eu hystyried.

Ar y cyfan, mae Prifysgolion Cymru yn croesawu’r argymhellion. Fodd bynnag, bydd yn bwysig i Lywodraeth Cymru a CCAUC (ac wedyn y Comisiwn ar Addysg Drydyddol ac Ymchwil – CADY) flaenoriaethu a chanolbwyntio’n strategol ar y meysydd a fydd yn gwella gwasanaethau a phrofiad myfyrwyr orau. 

Yr argymhelliad cyntaf yn ein gwaith ar y cyd gydag UCM Cymru, ColegauCymru ac AMOSSHE oedd sicrhau cydraddoldeb profiad. Ble bynnag mae myfyriwr yn byw neu'n gweithio, dylent fod yn gallu cael mynediad at safon gyson o gymorth gofal iechyd. Mae hyn yn golygu cynnwys myfyrwyr yn asesiadau poblogaeth y GIG, a thrin myfyrwyr ar sail gyfartal â'r boblogaeth ehangach, yn hytrach na bod myfyrwyr yn alw ychwanegol ar wasanaethau nad oes cyfrif amdano.

Set gyffredin o egwyddorion

O ran y cymorth sydd ar gael mewn prifysgolion, mae holl brifysgolion Cymru wedi ymrwymo i fframwaith Stepchange: mentally healthy universities sefydliad Prifysgolion y DU (UUK) ynghyd â chanllawiau Suicide Safer, sy'n hyrwyddo ymagwedd 'prifysgol gyfan' at gymorth llesiant ac iechyd meddwl i fyfyrwyr a staff. Mae hyn yn gosod sylfaen gyffredin ar gyfer cynnig cymorth iechyd meddwl ar draws ein prifysgolion.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell bod CADY yn datblygu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar draws y sector addysg uwch, sy'n gosod gwaelodlin, ond ar yr un pryd yn ddigon hyblyg i ystyried cyd-destunau penodol gwahanol sefydliadau.

Gellir dadlau bod y fframwaith hwn eisoes yn bodoli mewn addysg uwch ar ffurf fframwaith Stepchange. Ond, gan roi hynny o’r neilltu, mae cyfle i ddefnyddio hyn fel sail i archwilio sut y gellid cytuno ar set gyffredin o egwyddorion ar gyfer rôl a chyfrifoldebau darparwyr addysg uwch a darparwyr iechyd.

Yn wir, mae'r adroddiad yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn dechrau rhywfaint o waith ymchwil er mwyn datblygu dealltwriaeth a rennir o'r rolau a'r cyfrifoldebau ar draws gofal iechyd ac addysg ar gyfer llesiant meddwl myfyrwyr.

Gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd

Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl i Brifysgolion, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran llenwi'r bwlch rhwng gwasanaethau cymorth y GIG a phrifysgolion i sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth ar y lefel briodol.

Mae’r gwasanaeth cyswllt yn bartneriaeth a ariennir gan CCAUC yn ne-ddwyrain Cymru rhwng y tair prifysgol yng Nghaerdydd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Gall myfyrwyr gael mynediad i'r cynllun drwy atgyfeiriad gan adran Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol, Seiciatreg Cyswllt Oedolion, neu Feddyg Teulu. Mae tîm iechyd meddwl y GIG yn gweithredu o fewn gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr ar gampysau prifysgolion gan ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd angen asesiad GIG ar gyfer problemau iechyd meddwl cymedrol neu anawsterau iechyd meddwl hir-dymor mwy cymhleth.

Rydym yn croesawu argymhelliad y Pwyllgor y dylid ehangu’r model hwn.

Ymagwedd sector cyfan

Mae yna rai argymhellion sy’n ymwneud â charfannau penodol o fyfyrwyr, megis myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr gofal iechyd neu’r rhai sydd ar leoliad gwaith. Gallai gweithio gyda’n gilydd i ystyried yr heriau penodol y mae’r mathau hyn o fyfyrwyr yn eu hwynebu fod yn gam nesaf synhwyrol wrth geisio ymagwedd sector cyfan.

Bydd deialog barhaus rhwng Llywodraeth Cymru, CCAUC/CADY a’r sector yn hanfodol i ddatblygu eglurder rolau a chyfrifoldebau darparwyr gofal iechyd ac addysg.

Fel sector, mae gennym hanes cryf o weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a gyda’n gilydd. Rwy’n teimlo’n falch o fod wedi cadeirio grŵp ymateb i Covid addysg uwch Llywodraeth Cymru, a ddangosodd sut y gallwn gydweithio’n effeithiol ar lefel Cymru i fynd i’r afael â heriau cymhleth.

Gan weithio ar y cyd fel sector trydyddol gyda Llywodraeth Cymru a’r GIG, rwy’n hyderus y gallwn barhau i adeiladu ar arfer da sy’n bodoli eisoes i wella cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr ledled Cymru.