
Cryfhau hawliau a chyfranogiad o dan gyfraith galluedd meddyliol
Roedd gwaith Dr Lucy Series a’i chydweithwyr ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn gyfrifol am atgyfnerthu hawliau a chyfranogiad pobl y gellir ystyried nad oes ganddynt alluedd i wneud neu gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau.
Roedd eu gwaith yn ganolog i reolau newydd y Llys Gwarchod sy’n gwella cyfranogiad pobl a allai fod heb alluedd mewn achosion. Hefyd canllawiau newydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol o ran cefnogi a chynnwys pobl mewn penderfyniadau a hyrwyddo ymgysylltiad a gwelliant mewn diwygiadau deddfwriaethol mawr, i ddiogelu hawliau i ryddid i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal.