Â’r nod o feithrin cydweithrediad rhwng prifysgolion Cymru, mae’r gronfa’n darparu cyllid sbarduno hanfodol i helpu grwpiau ymchwil i ddatblygu ceisiadau am gyllid allanol a chyflawni prosiectau effeithiol sy’n hybu arloesedd yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cronfa Grantiau Bach RhAC wedi dyrannu £267,000 i 39 o brosiectau ar draws prifysgolion Cymru, gan alluogi ymchwilwyr i gyflwyno ceisiadau gwerth dros £20 miliwn i gyllidwyr allanol. Mae grantiau bach nid yn unig wedi sbarduno ymchwil arloesol, ond hefyd wedi cryfhau partneriaethau yng Nghymru a thu hwnt, gan ysgogi datblygiadau ar draws themâu allweddol fel Sero Net, iechyd y boblogaeth, a diwydiannau creadigol.

Mae RhAC wedi dyrannu £45,000 i gefnogi prosiectau yn 2025, gydag uchafswm o £5,000 ar gael ar gyfer pob cynnig llwyddiannus. Rhaid i brosiectau cymwys ymwneud ag o leiaf tair prifysgol yng Nghymru, a gallant gynnwys partneriaid o'r tu allan i Gymru neu randdeiliaid allanol, megis busnesau, grwpiau cymunedol, neu sefydliadau sector cyhoeddus.

Bydd y cyllido’n canolbwyntio ar brosiectau sy'n cyd-fynd â themâu craidd RhAC:

  • Trawsnewid Digidol
  • Iechyd y Boblogaeth a Biodechnoleg
  • Diwylliant, Diwydiannau Creadigol, a'r Cyfryngau
  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu
  • Sero Net a Datgarboneiddio
  • Technoleg Amaeth, Bwyd, a'r Economi Wledig

Meddai Dr Lewis Dean, pennaeth RhAC:
“Mae’r Gronfa Grantiau Bach yn enghraifft o ymrwymiad RhAC i feithrin arloesedd a chydweithio ar draws prifysgolion Cymru. Trwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu, rydym yn galluogi grwpiau ymchwil i wneud cais llwyddiannus am gyllid allanol a mynd i’r afael â’r heriau hollbwysig sy’n wynebu Cymru a’r byd ehangach.

“Rwyf wrth fy modd â’r llwyddiannau rydym wedi’u gweld trwy Gronfa Grantiau Bach RhAC hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at y cyflawniadau y byddwn yn eu gweld yn sgil y rownd nesaf o gyllido.”

I wneud cais, lawrlwythwch y ffurflen gais a’i chyflwyno i innovation.network@uniswales.ac.uk erbyn 29ain Ionawr 2025.