Mae wedi cymryd cryn amser i gyhoeddi datganiad cyntaf Llywodraeth Cymru o flaenoriaethau ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a ddisgwylir ym mis Ionawr. Pan osodwyd y Bil gyntaf yn 2021, edrychodd Prifysgolion Cymru ymlaen at ble oedd y cyfleoedd: ar gyfer cydweithio, ar gyfer ei gwneud yn haws i fwy o bobl o bob oed a chefndir fynd i mewn i addysg uwch, a chynyddu cyfranogiad a dysgu gydol oes.

Wrth i ni aros am gyhoeddiad y datganiad o flaenoriaethau a phwyso a mesur ble’r rydyn ni wedi cyrraedd, gallwn weld llawer o’r risgiau y buom yn siarad amdanynt yn dod yn amlycach, gyda llawer o’r pwyntiau hyn yn teimlo cymaint â hynny’n gliriach.

Fel y nodwyd yn ddiweddar yn ein tystiolaeth i’r Senedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25, rydym bellach yn gweld arwyddion clir a chyson yn ein rhybuddio bod llai o bobl yng Nghymru’n mynd i mewn i addysg uwch.

Eleni gwnaeth llai o bobl o Gymru gais am le mewn prifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Er bod gan fyfyrwyr o Gymru’r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU, mae’r bwlch mewn lefel cyfranogiad pobl ifanc 18 oed rhwng Cymru a’r DU gyfan hefyd ar ei ehangaf am yr un cyfnod, gan greu’r posibilrwydd y bydd gennym garfannau o bobl ifanc â llai o gymwysterau na'u rhagflaenwyr. Ar yr un pryd, mae ffigurau diweddar yn awgrymu bod cyfranogiad ar draws rhannau eraill o addysg ôl-16 yn wynebu heriau tebyg.

Mae cyfranogiad yn her gymhleth, fel y mae wedi bod erioed. Mae effaith hirdymor y pandemig yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy felly. Nid yn unig yr amharwyd ar addysg ar draws ein system ysgolion gyfan, ond teimlwyd effeithiau’r pandemig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru a gan wahanol grwpiau o bobl. 

Dyna pam, dros y misoedd diwethaf, yr ydym wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i gyfranogiad fod yn rhan o unrhyw flaenoriaethau a osodir ar gyfer y Comisiwn. Mae risgiau nid yn unig i Gymru - y gostyngiad mewn cyfranogiad yn digwydd tra bod y galw am raddedigion ar fin cynyddu - ond hefyd i unigolion nad ydynt efallai’n mynd i gael yr un cyfleoedd a gafodd y rhai sydd ychydig flynyddoedd yn hŷn na nhw.

Elfen o hyn fydd sut rydym yn cynorthwyo â llwybrau a phontio ar draws y meysydd y mae'r Comisiwn yn gyfrifol amdanynt. Er enghraifft, mae’n dal yn wir, oherwydd y fframweithiau ar gyfer prentisiaeth gradd sydd ar gael yng Nghymru, nad oes gan y rhan fwyaf o brentisiaid lefel uwch unrhyw lwybr at radd sy’n seiliedig ar y gweithle.

Ond mae mwy i hyn na dim ond gosod y llwybrau, mae'n ymwneud â deall ble mae ein pobl ifanc a beth maen nhw'n dewis ei wneud. Mae’r amgylchedd data’n hynod dameidiog yn y sector ôl-16. Gwyddom faint o bobl ifanc 18 oed sy’n dewis mynd i mewn i addysg uwch, ond nid i ble mae'r 70% arall yn mynd. Defnyddir gwahanol arolygon mewn colegau ac ysgolion, ac mae gwahanol ofynion data’n gweithredu ar draws yr holl leoliadau hynny. Y cam cyntaf ar gyfer adeiladu cyfleoedd sy'n cynorthwyo’r pontio hwn yw deall ble mae pobl ar hyn o bryd.

Ac, wrth gwrs, er y bydd y rhan fwyaf o weithgarwch y Comisiwn yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant, mae hefyd yn bwysig cofio cyfrifoldeb y sefydliad dros ymchwil ac arloesedd. Mae ymchwil ac arloesedd mewn prifysgolion yn chwarae rhan allweddol yng Nghymru, yn fwy felly na rhannau eraill o'r DU o ystyried ein daearyddiaeth a'n cymysgedd o ddiwydiant. Mae'n darparu budd economaidd, yn creu swyddi ac, fel y dangoswyd gan yr ymarferiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) diweddar, mae’n gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl.

Mae'r amgylchedd cyllido ymchwil ac arloesedd yn gymhleth. Yn achos prifysgolion mae'n cynnwys cyllido craidd, ar hyn o bryd trwy CCAUC, ond trwy’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil cyn bo hir, ynghyd â chyllid y mae’n rhaid cystadlu amdano ar draws y DU gyfan. Dyma'r cyllido craidd sy'n galluogi ein sefydliadau i fynd ati i sicrhau'r grantiau cystadleuol. Bydd angen i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac UKRI i wella gallu Cymru fod yn nodwedd bwysig o stiwardiaeth y CADY yn y maes hwn. Bu adegau, ac fe fydd eto, pan fydd newidiadau ym mholisi Llywodraeth y DU yn creu cyfleoedd i Gymru, ac ar yr adegau hynny y bydd angen Comisiwn sy’n gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hynny.

Yn olaf, bydd yn bwysig i'r Comisiwn fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir ar gyfer rheoleiddio gwell a mwy effeithlon, gan gynnwys symud tuag at ddull sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau. Roeddem yn croesawu’r cyfeiriad polisi a nodwyd yn ystod taith y Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil trwy’r Senedd i leihau’r baich gweinyddol a roddir ar ddarparwyr ar draws yr amgylchedd ôl-16. Er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn, bydd angen disgyblaeth wrth ryddhau'r capasiti i ganolbwyntio ar gyflawni'r deilliannau.

Wrth gwrs, ni ddylai hyn fod ar draul ansawdd na thryloywder. Rydym wedi cefnogi'r ymrwymiadau a wnaed trwy bolisi a deddfwriaeth i gynnal yr ymagwedd gadarn at sicrhau a gwella ansawdd a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysg uwch. Teimlwn yn gryf hefyd fod tryloywder data a gwybodaeth mewn addysg uwch yn ased ac yn un yr hoffem weld y Comisiwn yn parhau i’w hyrwyddo.

Nid oes diwedd ar yr heriau a wynebir gan brifysgolion nac unrhyw un o'r sectorau sy'n dod o dan gylch gwaith y Comisiwn. Mae ein hamgylchedd gweithredu’n edrych yn llawer gwaeth nawr nag y gallai unrhyw un fod wedi ei ragweld yn 2016 pan ddechreuodd y daith hon. Ond erys cyfleoedd: i wella cyfranogiad ar draws y sector ôl-16 a llwybrau cymorth i fyfyrwyr o bob oed a chefndir, i ffurfio partneriaethau newydd a sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd i Gymru. Hefyd lleddfu baich gweinyddol mewn ffordd sy’n galluogi ein prifysgolion i gyflawni mwy o'r deilliannau yr ydym am eu gweld. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd hyn.