Canolfan Galw-heibio Blaen y Maes
Mae PCyDDS yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Galw-heibio Blaen y Maes yn Abertawe i ddarparu cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu i deuluoedd ac oedolion
Mae’r prosiect wedi'i ariannu a'i gynnal gan adran Ehangu Mynediad PCyDDS a'i hymrwymiad i'r Bartneriaeth Ymestyn yn Ehangach, ac mae wedi ymgysylltu â dros 60 o deuluoedd a 200 o aelodau'r gymuned hyd yn hyn.
Mae gweithgareddau sydd wedi’u hanelu at ddileu rhwystrau a fyddai fel arall yn atal cyfranogwyr rhag ymgysylltu wedi cynnwys sesiynau sy’n canolbwyntio ar lesiant, natur, y celfyddydau, rhifedd a llythrennedd, creu a meithrin hyder, yn ogystal â chyfleoedd i fod yn rhan o rwydwaith cymunedol ehangach PCyDDS drwy gyfrwng digwyddiadau lleol a chenedlaethol fel Gorymdaith y Nadolig yn Abertawe ac Wythnos Ffoaduriaid.