Campws Agored Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae Campws Agored Met Caerdydd yn ffordd gydweithredol o weithio sy'n darparu cyfloedd ar gyfer chwaraeon, gweithgaredd corfforol a chwarae yn yr awyr agored, yn ogystal â chyfleoedd iechyd a llesiant yn rhanbarth Dinas Caerdydd a thu hwnt.
Mae Campws Agored yn golygu bod staff a myfyrwyr y brifysgol yn gweithio ar y cyd â’r gymuned i greu cyfleoedd ar gyfer budd i’r naill garfan a’r llall, gan ddarparu profiadau dysgu gwirioneddol drwy chwaraeon, i ddatblygu Caerdydd ymhellach fel Prifddinas sy’n arwain y byd o ran chwaraeon, gweithgaredd corfforol ac iechyd.
Yr hyn sy'n gwneud Campws Agored yn unigryw ac yn arwain y sector yw aliniad y prosiect â chwricwlwm y Brifysgol. Mae hyn yn galluogi Met Caerdydd i ddarparu ystod o gyfleoedd am ddim a rhai y telir amdanynt i bartneriaid ar y campws ac oddi arno, sy'n gysylltiedig â chanlyniadau gradd ac ymchwil academaidd myfyrwyr.