Beth nesaf ar gyfer y diwygiadau ôl-16 yng Nghymru?
Cafwyd addewidion y bydd newidiadau i’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), ond i Kieron Rees o Brifysgolion Cymru mae angen mwy i gael y bil allweddol hwn yn union gywir.
30 March 2022
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar WonkHE
A dyna ni, mae Cam 1 y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) wedi’i gwblhau.
Mae wedi bod yn daith hir i gyrraedd y pwynt hwn ers cyhoeddi adroddiad Hazelkorn, chwe blynedd yn ôl i’r mis hwn – trwy amryw o ymgynghoriadau a Bil drafft.
A chydag egwyddorion cyffredinol y Bil yn derbyn cefnogaeth unfrydol gan y Senedd, mae llwybr clir bellach i sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a fydd yn ariannu ac yn rheoleiddio addysg a hyfforddiant ôl-16, yn ogystal ag ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.
Mae addysg uwch Cymru wastad wedi bod yn glir o ran cefnogi egwyddorion eang y Bil a’i uchelgeisiau ar gyfer Cymru. Er bod cynnydd da wedi’i wneud rhwng y Bil Drafft a chyflwyno’r Bil, yn enwedig ar feysydd fel rhyddid academaidd, mae meysydd eraill yn peri pryder o hyd. Trwy ymgysylltu’n agos ac agored â Phwyllgorau a Gweinidogion y Senedd, roeddem yn falch o weld nifer o ymrwymiadau yn ymwneud â’r pryderon hynny.
Ymchwil ac Arloesedd
Roedd cydnabyddiaeth glir o ymchwil ac arloesedd o fewn y Comisiwn yn un o ofynion allweddol prifysgolion. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd dyraniadau disgwyliedig y Comisiwn ar gyfer ymchwil ac arloesedd – trwy gyllido megis ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd a Chronfa Arloesedd Ymchwil Cymru. Mae'n darparu llawer o'r capasiti sy'n galluogi prifysgolion i sicrhau grantiau cystadleuol mwy, yn ogystal â chynnal eu seilwaith ymchwil.
Mae’r Bil fel y mae’n sefyll yn cynnig naw dyletswydd strategol, gan gynnwys hyrwyddo dysgu gydol-oes, cyfle cyfartal, cydweithredu, cennad ddinesig a golwg fyd-eang. Gofynnom am ddyletswydd ychwanegol yn canolbwyntio ar hyrwyddo gweithgarwch ymchwil ac arloesedd.
Yn yr un modd, rydym wedi gofyn i’r Bil gael ei ddiwygio i gynnwys dyletswyddau sy’n ymwneud â chyllido cytbwys a thryloyw er mwyn sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau, y byddai’r Comisiwn yn rhoi sylw i gydbwysedd cyllido ar draws ei wahanol feysydd cyfrifoldeb, a bod y penderfyniadau hynny'n glir a thryloyw.
O’r herwydd, rydym yn croesawu agwedd agored y Gweinidog ar y safle hwn yr wythnos ddiwethaf, gan ailadrodd ymrwymiadau i gryfhau amlygrwydd ymchwil ac arloesedd yn y Bil, yn ogystal ag archwilio’r posibilrwydd o ddyletswydd tryloywder.
Corfforaethau Addysg Uwch
Un o’r anghysondebau allweddol sydd mewn addysg uwch yng Nghymru, yn sgil sut y ffurfiwyd rhai sefydliadau yn y lle cyntaf, yw bod gan Lywodraeth Cymru’r gallu i ddiddymu rhai prifysgolion yng Nghymru, y rhai a ystyrir yn Gorfforaethau Addysg Uwch, yn erbyn eu hewyllys. Rydym wedi dadlau ers tro bod dal y lefel hon o bŵer dros sefydliadau penodol, sydd hefyd yn elusennau wedi’u cofrestru’n uniongyrchol ac sy’n destun yr holl ofynion a mesurau diogelu sy’n gysylltiedig â hynny, yn anghymesur. Roedd gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei chadw ac, mewn rhai meysydd, yn cael ei hehangu o ran y darpariaethau hyn, yn fater o bryder.
Mae ein tystiolaeth i’r Senedd wedi ei gwneud yn glir mai ein barn ni yw y dylid dileu’r darpariaethau hyn. Roeddem yn falch o weld y Gweinidog yn cadarnhau y byddai’n cyflwyno gwelliannau yn y maes hwn.
Rhyddid Academaidd ac Ymreolaeth Sefydliadol
Maes allweddol arall i brifysgolion y mae’r Gweinidog wedi mynegi bwriad i fynd i’r afael ag ef trwy welliannau yw sut mae rhyddid academaidd ac ymreolaeth sefydliadol yn cael eu diogelu mewn deddfwriaeth.
Mae’r rhain yn gonglfeini pwysig mewn addysg uwch sy’n chwarae rhan yn ein ghallu i gystadlu’n rhyngwladol, ein gallu i wthio ffiniau gwybodaeth a dealltwriaeth, a’n hatyniad i staff a myfyrwyr. Er bod rhyddid academaidd wedi’i gryfhau rhwng y Bil drafft a’r Bil fel y’i cyflwynwyd, rydym wedi gofyn am gyflwyno dyletswydd gyffredinol ar ymreolaeth sefydliadol ac am ehangu rhyddid academaidd i gynnwys ymchwil ac arloesedd yn benodol.
Beth nesaf?
Mae meysydd eraill o hyd y teimlwn y dylid eu hystyried wrth i’r Bil symud i Gam 2. Byddai’r Bil ar hyn o bryd yn caniatáu i’r Comisiwn osod amodau cofrestru penodol ar ddarparwyr unigol. Teimlwn yn gryf mai dim ond yn ôl dosbarthiad, categori neu fath o ddarparydd y dylai'r Comisiwn allu gosod amodau cofrestru, er mwyn lleihau'r risg y bydd sefydliad unigol yn destun cyfres anghymesur o ofynion. Byddwn yn parhau i fynegi’r pwynt hwn yn ein hymgysylltiad â’r llywodraeth a’r Senedd.
Ac, wrth gwrs, mae'n bwysig cofio y bydd llawer o'r manylion a fydd o bwys i brifysgolion a darparwyr eraill yn cael eu gadael i reoliadau. Er enghraifft, y categorïau cofrestru. Ystyriwyd hyn gan ddau o bwyllgorau’r Senedd, ac aethant ati i wneud argymhellion ar gyfer mynd i’r afael â’r mater. Byddwn yn parhau i geisio eglurder ynghylch yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno trwy reoliadau i lywio ein hymgysylltiad â’r Bil hwn yn well.
Wrth i ni symud i mewn i Gam 2, bydd y ddau fis nesaf yn gyfnod tawel ond hollbwysig o gyflwyno gwelliannau cyn i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ystyried y gwelliannau ganol mis Mai. Ar yr un pryd, bydd angen i’r llywodraeth a rhanddeiliaid roi ystyriaeth fanwl i ymarferoldeb gweithredu’r Bil, wrth i ni baratoi i symud at system newydd o reoleiddio ac ariannu.
Gyda’r ymrwymiadau a wnaed gan y Gweinidog, ac yn amodol ar ddrafftio sy’n bodloni nodau’r ymrwymiadau hynny, credwn ein bod ar y llwybr at setliad ymarferol a all ddiogelu’r buddion y mae ein sefydliadau yn eu cynnig, tra hefyd yn darparu llwyfan cryfach ar gyfer cydweithredu rhwng darparwyr.