Beth fydd rôl prifysgolion yng Nghymru ar ôl Covid?
Dyma Gadeirydd Prifysgolion Cymru, Julie Lydon, yn tynnu sylw at bwysigrwydd prifysgolion Cymru yn ein hadferiad o’r argyfwng.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol ar IWA
28 April 2020
Mae’n anodd meddwl am gyfnod yn ystod y blynyddoedd diwethaf pan mae’r gair ‘digynsail’ wedi cael cymaint o ddefnydd.
Ond mae’r ansicrwydd sy’n wynebu Cymru, y DU, a’r byd, ar hyn o bryd yn wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi’i brofi ers degawdau lawer. Wrth i’r cyfnod hwn o orfod aros yn ein cartrefi a chynnal pellter cymdeithasol barhau, heb unrhyw syniad clir pryd y bydd cyfyngiadau yn cael eu llacio, mae’n anodd gwybod beth sydd angen i ni gynllunio ar ei gyfer na phryd.
Ddydd Mawrth 14 Ebrill, canolbwyntiodd y penawdau ar ragolygon y Swyddfa er Cyfrifoldeb Cyllidol (OBR) y gallai economi’r DU grebachu 35% yn ail chwarter y flwyddyn, sefyllfa na welwyd erioed mo’i thebyg, ond gyda’r nodyn bach o optimistiaeth gynnig y gallai’r economi adfer yn gyflym i’r un lefelau â’r hyn a welwyd cyn dyfodiad y feirws.
Ond wrth i ni glywed straeon am galedi ac anhawster aruthrol, am yr effaith y mae’r pandemig yn ei chael ar bobl gan gynnwys grwpiau difreintiedig a bregus ledled y byd, gall y camau y byddwn yn eu cymryd yn y dyfodol, wrth i gyfyngiadau gael eu codi, ymddangos yn bell i ffwrdd.
Yn achos prifysgolion, mae cryn lawer wedi digwydd yn ystod y pum wythnos ddiwethaf; mae staff wedi gwneud cryn ymdrech i symud darpariaeth ar-lein a newid cynlluniau ar gyfer asesiadau, ac mae sefydliadau’n ceisio cynnig cymorth i staff a myfyrwyr sydd bellach, i raddau helaeth, yn gweithredu o bell.
Ac yn ogystal â’r heriau gweithredol uniongyrchol, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae prifysgolion wedi mynd ati i chwarae rhan hanfodol mewn rhoi cymorth i gymunedau lleol a’r gwasanaeth iechyd fel yr amlygwyd mewn erthyglau diweddar.
Ac yn awr, yn anochel, rydym yn dechrau meddwl am yr hyn fydd yn digwydd nesaf, a pha rôl y bydd prifysgolion yn ei chwarae yn adferiad Cymru o’r argyfwng hwn. Yng Nghymru, efallai yn fwy nag mewn rhannau eraill o’r DU, rydym yn aml yn cael ein gwneud yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd prifysgolion yn eu hardaloedd lleol.
Gwyddom fod prifysgolion Cymru yn bwysicach i’w heconomïau rhanbarthol o’u cymharu â phrifysgolion mewn mannau eraill, gan greu incwm o £5bn a bron i 50,000 o swyddi ledled Cymru; ond mae rôl ein sefydliadau yn mynd y tu hwnt i’w cyfraniad ariannol.
Maen nhw’n denu pobl i fyw a gweithio mewn ardaloedd ledled Cymru ac maen nhw’n darparu canolfannau diwylliannol a chyfleusterau ar gyfer yr ardal leol a busnesau. Yn 2018/19 yng Nghymru mynychodd bron i 300,000 o bobl ddigwyddiadau cerddoriaeth, dawns neu ddrama a drefnwyd gan brifysgolion yng Nghymru, a bu 250,000 yn ymweld ag arddangosfeydd a drefnwyd gan brifysgolion.
A theimlir yr effaith y tu hwnt i’r hyn y byddai llawer yn ei ystyried yn feysydd traddodiadol dysgu, addysgu, ac ymchwil. Yn ôl Arolwg Rhyngweithio â Busnes Addysg Uwch 2018/19, cyflwynwyd 284,343 diwrnod o ddatblygiad proffesiynol parhaus i gyflogwyr gan brifysgolion yng Nghymru. Ac mae Cymru yn parhau i berfformio’n well na’r hyn y gellid ei ddisgwyl o ran busnesau wedi’u sefydlu gan raddedigion, gyda’r nifer uchaf o fusnesau newydd yn y DU yn ôl maint y boblogaeth.
Roedd ansicrwydd ar gyfer dyfodol y sector cyn Covid-19. Rydym wedi siarad cryn lawer am y risgiau ariannol i brifysgolion yng Nghymru sydd ynghlwm ag ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd.
Hyd yn hyn, yn y rownd gyfredol o arian o gronfeydd strwythurol yr UE ers 2014, mae prifysgolion Cymru wedi derbyn dros £280m fel prif bartneriaid mewn prosiectau cymeradwy. Mae ansicrwydd o hyd ynghylch beth ddaw yn lle’r arian yma yn y blynyddoedd i ddod.
Ac yn fwy diweddar, mae’r pwysau ariannol ar y sector o ganlyniad i Covid-19 wedi cael eu hamlygu gan Brifysgolion y DU yn eu papur sy’n amlinellu pecyn o fesurau sefydlogrwydd arfaethedig ar gyfer y sector.
Yn ogystal ag effaith ariannol incwm a gollwyd ac ad-daliadau yn y flwyddyn academaidd hon – gan gynnwys y posibilrwydd o golli £35m mewn incwm llety, gwasanaethau cynadledda ac arlwyo – mae yna’r perygl o ostyngiad yn nifer y myfyrwyr – cartref a rhyngwladol – fydd yn astudio yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae’r amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu pe bai gostyngiad o 50% yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol, byddai’r golled o ran incwm cymaint â £88m. A phe bai 15% o fyfyrwyr cartref yn gohirio tan y flwyddyn ganlynol, byddai hynny’n golygu colled o £36m arall.
Pan ddown ni allan o’r argyfwng hwn – proses y mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu bydd yn digwydd gam wrth gam – mewn sawl ffordd ni fydd y rôl y mae prifysgolion yn ei chwarae yng Nghymru mor wahanol â hynny; yn wir, gallai fod hyd yn oed yn bwysicach.
Y cyfraniad i economïau lleol ledled Cymru, y cysylltiadau rhyngwladol, paratoi a darparu gweithwyr ar gyfer sectorau allweddol, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd. Ond, yn hollbwysig efallai, y sicrwyd o barhad y mae ein sefydliadau yn ei gynnig i bobl a chymunedau ledled Cymru, o Aberystwyth i Fangor, o Wrecsam i Abertawe.
Fel sawl agwedd ar ein bywydau ar ôl yr argyfwng hwn, ni fydd hi’n ‘fusnes fel arfer’; mae hynny’n mynd i fod yn amhosibl.
Bydd gwead economaidd a chymdeithasol ein gwlad wedi newid mewn ffyrdd na allwn eu rhagweld.
Ond yn yr un modd ag y mae prifysgolion Cymru wedi derbyn yr her, gan fod ar flaen y gad yn yr ymateb cenedlaethol i’r argyfwng hwn, felly hefyd bydd y cyfraniadau parhaus i gymunedau, rhanbarthau a’r wlad yn bwysig ym mha beth bynnag a ddaw nesaf.