Anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg? Llywio polisi iaith yng Nghymru
Mae ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth ar adfywio ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lywio a dylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru ar hybu’r Gymraeg.
Gan adlewyrchu arwyddocâd gwleidyddol cynyddol amrywiaeth ddiwylliannol, mae ymyriadau polisi cyhoeddus sy’n ceisio adfywio rhagolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol wedi dod yn fwyfwy amlwg mewn sawl rhan o’r byd.
Mae ymchwil diweddar gan Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Edwards yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth wedi canolbwyntio ar ddadansoddi’r gwahanol ddulliau o adfywio iaith sydd wedi’u mabwysiadu gan lywodraethau is-wladwriaethol ar draws Ewrop a Gogledd America. Yn seiliedig ar yr ymchwil hwn, a gynhaliwyd rhwng Awst 2016 a Gorffennaf 2017, bu modd iddynt lywio a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi a gyfrannodd at y gwaith o baratoi strategaeth iaith genedlaethol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Strategaethau adfywio iaith
Canfyddiadau allweddol yr ymchwil oedd y dylai strategaethau adfywio iaith wneud y canlynol:
- Taro cydbwysedd rhwng yr her o gynyddu nifer absoliwt siaradwyr ieithoedd lleiafrifol a chynyddu defnydd cymdeithasol o’r iaith.
- Rhoi mwy o ystyriaeth i oblygiadau newidiadau cymdeithasol, megis y cynnydd mewn lefelau symudedd personol, y cynnydd mewn ffurfiau rhwydweithiol o ryngweithio cymdeithasol a dirywiad ym mhwysigrwydd cymunedau lleol a thiriogaethol.
- Rhoi mwy o bwyslais ar fentrau ar lefel ranbarthol, ochr yn ochr â rhai mwy cyfarwydd yn y gymuned.
- Hyrwyddo ymateb i fewnfudo sy’n seiliedig ar bartneriaeth gyda siaradwyr presennol yr iaith leiafrifol, fel y gwelir yn y rhaglen Voluntariat per la Llengua yng Nghatalonia.
Anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg
Yn seiliedig ar eu harbenigedd ymchwil, datblygodd y tîm gysylltiadau cryf â swyddogion cyhoeddus a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n gysylltiedig ag ymdrechion polisi i hyrwyddo’r Gymraeg. O ganlyniad, pan gychwynnodd Llywodraeth Cymru ar y broses o ddatblygu strategaeth iaith genedlaethol newydd, roeddent mewn sefyllfa dda i gyfrannu at y drafodaeth bolisi a ddilynodd.
Roeddent yn gallu llywio a dylanwadu ar y broses hon drwy ymgysylltu’n agos â swyddogion o Is-adran y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, yn ystod y cyfnod trafod cychwynnol, yr ymgynghoriad cyhoeddus ac yn ystod y cyfnod drafftio terfynol (Ionawr-Gorffennaf 2017). Yn ystod y cyfnod hwn, mynychodd y tîm gyfarfodydd allweddol yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus, drafftio papurau briffio mewnol, cynnal sesiwn friffio ymchwil caeedig, a pharatoi cyflwyniad manwl i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus swyddogol ar gyfer swyddogion perthnasol y llywodraeth.
Cydnabu Eluned Morgan AS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y pryd, gyfraniad Dr Lewis, Royles ac Edwards yn gyhoeddus i'r gwaith o ddatblygu strategaeth Cymraeg 2050 mewn araith a draddodwyd yn Aberystwyth ym mis Mai 2019:
‘Rwyf eisiau gweld nifer y bobl sy’n mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg yn cyrraedd 1 miliwn erbyn 2050. Gwn fod yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi chwarae rhan weithredol yn natblygiad y strategaeth Cymraeg 2050 a'ch bod yn parhau i ymgymryd â gwaith ymchwil ar faterion cynllunio ieithyddol, felly hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth.’
Y tîm ymchwil
Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards - Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth