Ar 24ain Hydref cynhaliodd Prifysgol Bangor ail Symposiwm Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (WAHA).  Profodd hwn i fod yn ddigwyddiad ysgogol ac ysbrydoledig arall, gan ddod ag amrywiaeth o bobl ynghyd sy'n gweithio i hyrwyddo gwerth y Celfyddydau a'r Dyniaethau yng Nghymru. Trefnwyd y digwyddiad gan ddau gydweithiwr WAHA o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Ieithoedd ym Mangor, Ruth McElroy (Athro Diwydiannau Creadigol a Phennaeth yr Ysgol) a Sue Niebrzydowski (Athro Llenyddiaeth Ganoloesol a Deon Ymchwil Ôl-raddedig), gyda chefnogaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru. Daeth nifer dda o gydweithwyr o bob cwr o Gymru i’r digwyddiad, wyneb-yn-wyneb ac ar-lein (gyda rhai’n codi’n gynnar iawn i fod yn bresennol ar y diwrnod).

Prif ffocws y symposiwm oedd darpariaeth ôl-raddedig yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau yng Nghymru – pwnc a ysbrydolwyd gan lwyddiant diweddar cais ‘Lles’ Cymru gyfan WAHA, a cheisiadau eraill gan brifysgolion Cymru, gan gynnwys 'Cilgant Celtaidd' dan arweiniad Bangor, i gael mynediad at gyllid ar gyfer ymchwil doethuriaeth newydd trwy Gynllun Gwobrau Focal y Cyngor Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Mae'r gwobrau Focal, sy'n cael eu harwain gan heriau, yn gweithredu ochr-yn-ochr â chyllido Tirwedd AHRC ar gyfer ymchwil ôl-raddedig. 

Trwy gydol y dydd, llwyddodd trafodaethau i gipio cyffro cynllunio hyfforddiant doethuriaeth hyblyg a chydweithredol a fydd yn paratoi ôl-raddedigion yn y celfyddydau a’r dyniaethau i wneud cyfraniadau gwirioneddol ystyrlon i gymdeithas. Roedd ymwybyddiaeth gref hefyd o'r heriau yn y byd go-iawn, fel yr amser, arian a threfniadaeth fydd ynghlwm â sefydlu platfform o'r fath.

Croesawyd cydweithwyr gan yr Athro Paul Spencer, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, mewn anerchiad agoriadol a gydnabu’r llwyddiannau a’r heriau yn y dirwedd ymchwil ôl-raddedig gyfredol, a chan Gyd-gadeirydd WAHA, Mary-Ann Constantine. Yna cafwyd trafodaeth ddiddorol iawn yn cynnwys Jaideep Gupte, Cyfarwyddwr Ymchwil, Strategaeth ac Arloesi AHRC, Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau yn Medr, a Paul Osbadleston, Pennaeth Dros-dro Datblygu Sector, Cymru Greadigol. Ymatebodd y tri i gwestiynau am natur, pwrpas a chyfeiriad ymchwil ôl-raddedig o safbwynt eu gwahanol sefydliadau a sectorau.

Gan ganolbwyntio ar heriau ac enghreifftiau o arfer da, gosododd y sesiwn hon lawer o'r themâu a drafodwyd trwy gydol gweddill y dydd:

  • Manteision gweithredu â llais cyfunol a gyflawnir trwy gydweithrediadau gwell a dyfnach ar draws sefydliadau.
  • Agweddau nodedig a pherthnasol yn fyd-eang ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau yng Nghymru.
  • Pwysigrwydd strwythurau sy'n seiliedig ar le sy'n caniatáu i ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau fod wedi'i seilio'n lleol yn ogystal â bod yn berthnasol yn genedlaethol; roedd hyn hefyd yn gysylltiedig â chysyniadau o 'genhadaeth ddinesig'.
  • Sut i ymgysylltu â barn ehangach ynghylch 'gwerth cyhoeddus' ymchwil o'r fath.
  • Yr heriau sy’n perthyn i ddyfeisio modelau hyblyg ar gyfer cyfranogiad ôl-16 mewn addysg, mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mynediad, a sicrhau bod addysg ar gael mewn gwahanol gyfnodau o fywyd.
  • Rhagweld a pharatoi ar gyfer posibiliadau cyflogaeth y tu allan i lwybrau academaidd traddodiadol, trwy gydweithio â busnesau a sefydliadau, yn enwedig yn y diwydiannau creadigol, fel y cyfryngau, cyhoeddi a dylunio.   
  • Yr heriau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial i’r celfyddydau a’r dyniaethau traddodiadol sy'n cynnwys sgiliau artistig a llenyddol.
  • Costau, agored a chudd, sy’n ymwneud â chreu partneriaethau llwyddiannus, boed ar draws sefydliadau neu rhwng gwahanol sefydliadau addysg uwch, busnesau a chymunedau, yn enwedig yng ngoleuni gostyngiadau enfawr yn y gweithlu mewn llawer o brifysgolion.       

Darparodd yr ail sesiwn hwb i egni’r cyfranogwyr ar ffurf cyflwyniadau byr gan grŵp o fyfyrwyr PhD cyfredol ym Mhrifysgol Bangor. Roedd y proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd wrth gyflwyno ymchwil ar bynciau o glybiau pêl-droed i gelfyddyd sain a defnydd iaith, ac o fynwentydd i ganfyddiadau o'r menopos, yn atgoffa pawb a oedd yn bresennol o pam mae ymchwil doethuriaeth yn bwysig.

Ar ôl cinio, cyflwynodd yr Athro Ross Roberts (Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, Prifysgol Bangor) Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) – platfform doethuriaeth sefydledig sy'n gwasanaethu Cymru gyfan, a model y gallai WAHA a'r cynlluniau doethuriaeth eraill ddysgu ohono. Roedd hon yn enghraifft ardderchog o rannu arfer a chyfnewid gwybodaeth rhwng gwahanol raglenni doethuriaeth a ariennir gan UKRI. Rhoddodd fewnwelediadau da i ni ar y mecanweithiau ar gyfer cydweithio traws-sefydliadol, yn ogystal â’n rhybuddio am rai o’r anawsterau y maent wedi’u hwynebu. Cyfrannodd cydweithwyr WGSSS a oedd yn bresennol yn yr ystafell syniadau defnyddiol hefyd at y trafodaethau grŵp, a ddaeth â'r diwrnod i ben. 

Canolbwyntiodd y trafodaethau grŵp hynny ar ymarferoldeb llunio a threfnu'r strwythurau a fydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr doethuriaeth yng Nghymru. Mae WAHA yn falch o’r cyfle i chwarae rhan allweddol yn y dirwedd newydd ac ysbrydoledig hon o bosibiliadau i raddedigion, ac yn llongyfarch y trefnwyr ar ddiwrnod rhagorol a boddhaus.