Dadansoddwyd effaith ymchwil yng Nghymru ar y gymdeithas ehangach trwy astudiaethau achos a gyflwynwyd i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, sef asesiad y DU o ansawdd a rhagoriaeth ymchwil ar draws sefydliadau addysg uwch. Gellir dod o hyd i ddetholiad o'r astudiaethau achos hyn sy'n dangos effaith wirioneddol ymchwil yng Nghymru ar wefan Prifysgolion Cymru.

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’i ariannu mewn cydweithrediad â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Arloesedd Cymru, yn dangos ehangder ac amrywiaeth effaith ymchwil yng Nghymru ac yn taflu goleuni ar yr holl ffyrdd y mae ymchwil o brifysgolion yng Nghymru’n cyfoethogi cymunedau lleol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y byd.

Roedd chwarter yr ymchwil o fudd i blant a phobl ifanc, a nodwyd bod 25 o wahanol grwpiau o bobl wedi elwa yn sgil effaith ymchwil yng Nghymru, gan gynnwys teuluoedd, gofalwyr, llunwyr polisi a’r henoed. Mae ffocws lleol yn amlwg, gan fod 70% o'r ymchwil y cyfeiriwyd ato wedi cael effaith uniongyrchol yng Nghymru. Eto i gyd, does dim gwadu’r cyrhaeddiad byd-eang, gyda thros 60% yn ymestyn yn rhyngwladol i wledydd fel Awstralia, Tsieina, Norwy, a Siapan, gan bwysleisio’r arwyddocâd byd-eang a dangos cyrhaeddiad ymledol ein prifysgolion yng Nghymru.

O ran yr economi, roedd traean o'r astudiaethau achos yn dangos deilliannau ariannol diriaethol ymchwil yng Nghymru, sy'n dangos sut y gall ein prifysgolion, gan weithio gyda phartneriaid mewn diwydiant, hybu cynnydd economaidd. Wrth ystyried gweithio mewn partneriaeth, roedd 94% o’r astudiaethau achos yn tanlinellu rôl partneriaethau allanol, gyda sefydliadau rhyngwladol, elusennau, busnes a llywodraeth, gan danlinellu natur ryng-gysylltiedig ymchwil. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r ymdrech sylweddol tuag at wella prosesau ac arferion, gydag 85% o’r astudiaethau achos yn nodi gwelliannau mewn sectorau allweddol, yn arbennig iechyd, addysg, a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Lansiwyd Effeithiau ymchwil o brifysgolion yng Nghymru: Adolygiad cynhwysfawr o astudiaethau achos effaith Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 gan y Sefydliad Polisi yng Ngholeg y Brenin Llundain, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ar 9fed Tachwedd gyda digwyddiad mawreddog yng Nghaerdydd.

Gwnaeth yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru’r sylwadau canlynol ar ganfyddiadau'r adroddiad:

“Mae’r dadansoddiad hwn yn tanlinellu rôl anferthol prifysgolion yng Nghymru wrth feithrin ymchwil ac arloesedd ac ail-lunio gwead cymdeithas. Nid yn unig y mae'n dangos ymrwymiad ac arbenigedd ein cymuned academaidd, ond mae hefyd yn adlewyrchu cred gadarn CDdC yng ngrym trawsnewidiol gwybodaeth er budd Cymru a thu hwnt. Wrth i’r DU edrych ymlaen at ymgysylltiad llawn â rhaglen Horizon Europe, rydym yn obeithiol am y cyfleoedd cydweithredol cynyddol, ynghyd â’r potensial ar gyfer hyd yn oed mwy o ddatblygiad cymdeithasol yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro Paul Boyle, Cadeirydd Rhwydwaith Arloesedd Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:  

“Rydym wrth ein bodd bod yr adroddiad hwn yn crynhoi maint a chwmpas ymchwil ac arloesedd yng Nghymru a’i effaith sylweddol, o fewn ein gwlad a thu hwnt. Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu’r gred bod cydweithio a phartneriaeth yn hollbwysig i gyflawni'r arloesedd sydd o fudd i'n cymdeithas a'r economi; o hybu iechyd i ddatblygiadau technolegol a chadwraeth amgylcheddol. Mae Rhwydwaith Arloesedd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cryfder ac amrywioldeb ymchwil ac arloesedd yng Nghymru trwy hwyluso cydweithredu ar draws holl brifysgolion Cymru, fel y gallwn barhau i adeiladu ar effaith bwerus ein sector yng Nghymru, yn y DU ac ar draws y byd.” 

 

Dolenni i'r crynodeb lefel uchel:

Creu Effaith - Dathliad o Ymchwil o Gymru

Making an Impact - A Celebration of Welsh Research