Eleni, gwnaeth llai o bobl yng Nghymru gais i brifysgol nag ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf. Mae’r bwlch rhwng lefel cyfranogiad pobl ifanc 18 oed yng Nghymru a’r DU gyfan hefyd yr ehangaf y bu erioed. Yn fwy cyffredinol, mae ein poblogaeth yn parhau i fod yn llai cymwysedig o gymharu â rhannau eraill o'r DU.

Yn y cyfamser, mae ein prifysgolion yn wynebu rhai o’r amgylchiadau ariannol mwyaf dybryd ac anodd a welwyd ers blynyddoedd lawer.

Mae Prifysgolion Cymru wedi sôn yn aml am fudd economaidd eang ein prifysgolion a sut y bydd prifysgolion yn hollbwysig i baratoi Cymru ar gyfer sero net, newidiadau cyflym yn y gweithle, a newid technolegol. Pan aethom ati i baratoi ein hymateb i alwad y Senedd am dystiolaeth ar gyfer cyllideb 2024-25, daeth ein ffocws yn fwy sylfaenol: yr hyn sydd ei angen i gynnal y buddion y mae ein prifysgolion yn eu darparu, ac i fynd i’r afael â’r posibilrwydd gwirioneddol y bydd gennym garfannau o bobl ifanc llai cymwysedig na'u rhagflaenwyr am y tro cyntaf ers degawdau.

Ac er bod pethau y mae prifysgolion yn eu gwneud i wella cynaliadwyedd, gan gynnwys adolygu modelau busnes, prosiectau hirdymor yw’r rhain nad ydynt yn mynd i’r afael â’r risgiau tymor-byr. Mae cyflawni’r mathau hyn o raglenni trawsnewidiol hefyd yn gofyn am adnoddau ar adeg pan fo lefel y benthyca gan y sector prifysgolion yng Nghymru eisoes yn gymharol uchel: yng Nghymru, mae benthyca’n gyfrifol am 49% o’r incwm o gymharu â 34% ar gyfer y DU gyfan.

Beth yw'r heriau sy'n ein hwynebu? Yn bwysicaf oll, y ffaith bod incwm y sector Cymreig yn cynyddu’n arafach na’n gwariant. Efallai nad yw hyn yn syndod - rydym i gyd yn ymwybodol o'r pwysau cynyddol ar gostau yn sgil chwyddiant - ond mae’n dal i’n hatgoffa bod gwerth incwm ffioedd mewn termau real a llawer o'r ffynonellau arian cyhoeddus y mae prifysgolion yn dibynnu arnynt wedi crebachu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, nad yw ffioedd a chyllido bellach yn talu am gost addysgu myfyrwyr israddedig cartref mewn unrhyw faes pwnc. Yn yr un modd, dim ond tua 68% o gost darpariaeth y mae grantiau ymchwil yn eu talu.

Dyma pam mae cyllido gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch mor hanfodol. Heb y £205.4m o gyllid refeniw a fuddsoddwyd yn 2023-24, ni fyddai prifysgolion Cymru wedi gallu sicrhau grantiau ymchwil ac arloesedd nac wedi addysgu’r rhychwant o fyfyrwyr a wnaethant. Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn CCAUC sy’n galluogi prifysgolion i sicrhau ffynonellau incwm eraill. 

Mae cyllid ar gyfer ymchwil o ansawdd (QR) yn enghraifft dda o sut mae’r buddsoddiad hwnnw mor hanfodol. Mae'r gydberthynas rhwng lefelau cyllido QR a swm y cyllid cystadleuol a sicrhawyd wedi’i ddarlunio'n dda: mae rhannau o'r DU sydd â lefelau cyfrannol uwch o QR yn tueddu i sicrhau cyfran fwy o arian o gronfeydd y mae angen cystadlu amdano. Roedd dyraniadau ar gyfer ymchwil ac arloesedd yng Nghymru, gan gynnwys QR, yn £105m yn 2023-24. O'i addasu fel ei fod yn cyfateb i faint y boblogaeth, mae hyn £44m yn is na Lloegr a £68m yn is na'r Alban. Mae hyn yn ein rhoi dan anfantais wrth gystadlu am arian o’r un cronfeydd â phrifysgolion yng ngweddill y DU.

Ac mae pwysau eraill. Er enghraifft, mae addysgu myfyrwyr rhyngwladol yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd eang ledled Cymru, ac mae'n sail i gyllid prifysgolion.  Fodd bynnag, rydym yn gweithredu mewn marchnad recriwtio fyd-eang sy'n mynd yn fwy heriol ac yn llai dibynadwy.

Fel yr ydym wedi dweud droeon, mae ein prifysgolion yn rhan o wead ein cymunedau. Maent yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn sawl ffordd: o hyfforddi staff y sector cyhoeddus, fel athrawon, nyrsys a meddygon, i ddarparu gwasanaethau am ddim fel clinigau’r gyfraith; o ddarparu cyfleusterau chwaraeon a meithrinfa i gymunedau i gynnal canolfannau celfyddydau a chymunedol, parciau a gerddi botaneg.

Y meddylfryd dinesig hwn a'r berthynas â chymunedau sydd efallai wrth wraidd yr effaith uchel a gyflawnir gan brifysgolion Cymru. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, canfuwyd bod Cymru’n arwain y DU o ran effaith. Roedd 94% o astudiaethau achos Cymru’n ymwneud â chydweithio â phartneriaid anacademaidd gan gynnwys cyrff y sector cyhoeddus, llywodraeth genedlaethol a lleol, a diwydiant. Mae dadansoddiad o’r astudiaethau achos hynny wedi canfod bod gwaith ymchwil ac arloesedd prifysgolion Cymru o fudd uniongyrchol i blant a phobl ifanc, llunwyr polisi, yr henoed, menywod, a phobl ag anableddau.

Mae ein tystiolaeth i’r Senedd yn bragmataidd. Gwyddom am y pwysau ehangach sydd ar gyllid cyhoeddus a gwyddom y penderfyniadau anodd sy’n cael eu gwneud ar draws cyllideb y llywodraeth yn ei chyfanrwydd. Ond rhaid i ni gofio hefyd y gall y seilwaith, yr asedau a’r dalent yn ein prifysgolion sydd wedi cymryd degawdau i’w sefydlu gael eu colli mewn ychydig iawn o flynyddoedd. Rydym eisoes wedi gweld hyn: fel y rhybuddiwyd ym mis Chwefror 2023, roedd dros 1,000 o swyddi sgiliau uchel mewn perygl ym mhrifysgolion Cymru yn sgil colli arian o Gronfeydd Strwythurol Ewrop. Mae llawer o'r doniau a'r capasiti hwnnw bellach wedi diflannu.

Byddai effaith economaidd y penderfyniadau y byddai’n rhaid i brifysgolion eu gwneud yn y dyfodol agos, pe bai dim byd yn newid, i’w deimlo ar draws iechyd, addysg a mwy. Ac eto mae’r risgiau i Gymru yn fwy: y risg na all cymunedau ddibynnu ar yr asedau sydd wedi bod yn rhan o’u cymunedau ers cyhyd; neu genedlaethau heb yr un cyfleoedd i gael mynediad i addysg uwch â'r rhai a ddaeth o'r blaen; economi nad yw’n gallu cadw i fyny â’n cystadleuwyr byd-eang.

Hyn ar adeg pan rydym yn gwybod bod angen mwy o raddedigion: amcangyfrifir bod angen 400,000 yn ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035, yn wyneb gostyngiad mewn cyfranogiad.  

Dyna pam yr ydym wedi gofyn am gyfleoedd i barhau i weithio gyda’r llywodraeth er mwyn mynd i’r afael â’r heriau cyllido sylfaenol, gan gynnwys yr uned adnoddau ar gyfer addysg ran-amser a llawn-amser, i nodi cyllido buddsoddi-i-arbed, ac i helpu â chynnal y dalent a’r seilwaith sy’n cael eu colli, neu mewn perygl o gael eu colli, o ganlyniad i ddiffyg cyllido gan yr UE.

Nid dim ond asedau i sicrhau budd i ni heddiw yw ein prifysgolion, ond sefydliadau y mae’n rhaid i genedlaethau’r dyfodol allu manteisio arnynt i sicrhau’r un buddion. Nid yw’r risgiau i’n sector prifysgolion erioed wedi bod mor fawr; felly hefyd ein hangen amdanynt.