Fel rhan o’r gweithgaredd hwn, mae dau sefydliad addysg bellach yng Nghymru’n cydweithio â Hyb arloesedd mwyaf India i greu adnoddau cwricwlwm newydd ar gyfer pobl ifanc sy’n bwriadu gweithio yn y sector Cerbydau Trydan (EV). 

Mae’r darlithwyr peirianneg modurol arbenigol John Hier o Goleg Gŵyr Abertawe a Lee Summerhayes o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â’r tîm yn ecosystem arloesi T-Hub yn Hyderabad, Telangana, India i gydweithio ar greu cynnwys y modiwl.  Yn ystod eu hamser yn India, byddant hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr llywodraeth y dalaith ac yn ymweld â nifer o weithleoedd cynhyrchu cerbydau trydan Indiaidd i sicrhau bod y cwrs yn diwallu anghenion diwydiant yn India a Chymru.

Bydd y rhaglen hyfforddiant newydd yn cael ei threialu yn ddiweddarach eleni gyda charfannau a fydd yn cynnwys dysgwyr addysg bellach o Gymru a graddedigion o India. Bydd y cynnwys technegol yn cael ei gyfoethogi gan safbwyntiau byd-eang, a fydd yn hollbwysig wrth baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant modurol EV, y mae ei gadwyni cyflenwi yn aml yn rhychwantu ffiniau rhyngwladol.

Mae'r gwaith wedi digwydd trwy nifer o bartneriaid. Y Cyngor Prydeinig, partner allweddol Cymru Fyd-eang, wnaeth y cysylltiad cyntaf â T-Hub.  O ganlyniad, gwnaeth Cymru Fyd-eang gyflwyniadau, ac mae'r ymweliad i hybu'r cydweithio wedi'i derbyn cymorth ariannol gan Taith.

Mae rhaglen Cymru Fyd-eang hefyd yn hwyluso trefniadau cydweithredol ar gyfer sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ym maes technoleg Cerbydau Trydan yn nhaleithiau Telangana a Karnataka, sydd yn Ne India.  Bydd arbenigwyr pwnc o Grŵp Colegau Castellnedd - Port Talbot a Grŵp Llandrillo Menai yn ymuno â’r Cylch Ymchwil ac Arloesi (RICH) yn Hyderabad i gynnal asesiad o dechnoleg Cerbydau Trydan mewn safleoedd gweithgynhyrchu yn y ddwy dalaith.

Bydd y tîm ymchwil yn rhannu eu canfyddiadau â llywodraethau’r ddwy dalaith yn India yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn sail i ddatblygu rhaglenni pellach ar gyfer cydweithredu o ran sgiliau i gynorthwyo â chyflogadwyedd pobl ifanc ac ymdrechion y diwydiant modurol i symud i economi carbon isel.

Mae datblygu sylfaen sgiliau cenedlaethol a all weithio gyda thechnolegau newydd yn rhan bwysig o'r newid i ddiwydiant cynaliadwy ar gyfer y ddwy wlad.  Mae’r DU wedi addo cyrraedd y targed sero net ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050; mae India wedi ymrwymo i gyrraedd y targed sero net erbyn 2070.

Mae prifysgolion Cymru hefyd yn gweithio gyda thechnolegau a mentrau newydd yn yr ecosystem arloesedd yn T-Hub, sefydliad hybu technoleg newydd mwyaf y byd.  Yn 2023, hwylusodd Cymru Fyd-eang y gwaith o baru academyddion o brifysgolion yng Nghymru â mentrau newydd a sbardunwyd trwy T-Hub sy’n cynorthwyo mwy na 2000 o fusnesau newydd. 

Darparodd yr academyddion fentora ac arweiniad ar gyfer busnesau newydd ym meysydd iechyd a gwyddorau bywyd, seiberddiogelwch, ac ynni a'r amgylchedd.  Eleni, bydd myfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru yn elwa o weithio gyda’r Hyb sbarduno, gyda deuddeg o fyfyrwyr yn cael eu dewis i ymgymryd ag interniaethau rhithwir gyda chwe chwmni technoleg newydd yn India yn ystod haf 2024.

Bydd y profiad o fudd i fyfyrwyr a busnesau newydd, wrth i fyfyrwyr ddod i gysylltiad gwerthfawr â byd busnesau technoleg newydd, sy’n symud yn gyflym, ac wrth i’r busnesau newydd elwa ar brofiad israddedigion medrus o Gymru sy’n dod â thrylwyredd academaidd a safbwyntiau newydd i’r mentrau hynny.