Canfu ymchwil a gynhaliwyd yn y Ganolfan ar gyfer Oedran, Rhywedd, a Chyfiawnder Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2010 ymlaen, fod llawer o asiantaethau wedi methu ag adnabod cam-drin domestig ymysg pobl hŷn. Yn hytrach, pan fyddai unigolyn hŷn yn adrodd am achos o gam-drin domestig, roedd wedi’i guddio o dan y term ‘cam-drin pobl hŷn’ (elder abuse). Roedd y defnydd o'r term ehangach hwn yn ymyleiddio pobl hŷn ac yn eu hatal rhag cael cyfiawnder a mynediad at gymorth. 

Datgelodd yr ymchwil cynharach hwn ddiffyg gwybodaeth am reolaeth drwy orfodaeth a phrosesau diogelu, a darganfuwyd bod cymorth i ddioddefwyr hŷn yn aml yn cael ei ddarparu gan asiantaethau unigol ac nad yw'r wybodaeth ganddynt i gefnogi eu hanghenion cymhleth. O'r 200 o gleientiaid a gefnogwyd, roedd dros 60% yn 74 oed neu hŷn, roedd gan 61% anabledd, roedd 70% yn fenywod, a 90% yn byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. 

Amlygodd yr ymchwil hefyd anweledigrwydd systemig o 'brofiadau byw' dioddefwyr hŷn mewn ymchwil, polisi ac arferion yn ymwneud â cham-drin domestig. 

Dewis Choice

O ganlyniad i'r gwaith ymchwil, bu'r tîm yn gweithio gyda phobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod o bum mis i ddylunio'r Fenter Dewis Choice. Y bobl hŷn oedd yn penderfynu ar y model, a oedd yn pwysleisio’r angen am gymorth wyneb yn wyneb yn yr hirdymor, natur yr ymchwil, a sut y gellid datblygu adnoddau i newid dealltwriaeth o gam-drin domestig ymysg pobl hŷn, a gaiff ei gamgymryd yn aml am straen gofalwr. 

Crëwyd y Fenter mewn partneriaeth â phobl hŷn er mwyn gwneud y canlynol: 

  • llenwi bwlch sylweddol mewn ymateb gan wasanaethau. Dewis yw’r unig wasanaeth penodedig yng Nghymru a Lloegr sy’n darparu cymorth dwys hirdymor, o'r argyfwng hyd at adferiad,  
  • lleihau’r risg o gam-drin domestig a niwed yn y dyfodol, nid yn unig ar gyfer y 200 o gleientiaid a gefnogir, ond trwy gynhyrchu a dosbarthu pecynnau cymorth ac adnoddau i ddiogelu goroeswyr hŷn yn well trwy wella galluoedd ymarferwyr trwy hyfforddiant 
  • gwella’r ymateb o ran cyfiawnder i oroeswyr hŷn, a sicrhau eu bod mewn sefyllfa i wneud dewisiadau gwybodus.   

Er mwyn mynd i’r afael â’r hawliau dynol a’r anghenion a nodwyd gan yr ymchwil hydredol parhaus, mae’r tîm ymchwil yn gweithio’n agos gyda dioddefwyr hŷn cam-drin domestig er mwyn deall eu profiadau bywyd. Maent yn archwilio sut y gellir cefnogi goroeswyr a gaiff ddiagnosis o ddementia sy'n profi cam-drin domestig gan bartner agos a/neu aelod o'r teulu yn well. Defnyddir yr ymchwil hwn wedyn i amlygu 'tlodi' mewn gwasanaethau a bylchau mewn deddfwriaeth.  

Trawsnewid polisi ac arferion

Caiff agwedd hyfforddi'r fenter Dewis Choice ei chyflwyno i wasanaethau, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, yr heddlu, a sefydliadau trydydd sector ledled y DU. Mae’r tîm wedi ymgysylltu â thimau diogelu yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, yn ogystal ag yng Nghymru 

Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu ymarferwyr i wneud y canlynol: 

  • cael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl hŷn o gam-drin domestig, 
  • deall sut y gellir defnyddio deddfwriaeth i amddiffyn hawliau goroeswyr hŷn, yn enwedig os nad yw'r gallu  ganddynt i fynegi eu hunain. 
  • nodi risg yn well ac adrodd am achosion o gam-drin domestig,  
  • gweithio gyda sefydliadau eraill i roi cymorth priodol i ddioddefwyr hŷn. 

Cyfrannodd Dewis Choice hefyd at ystod eang o waith ledled Cymru, gan gynnwys canllawiau diogelu cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Cynllun Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, a grwpiau strategaeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 

“Mae [Dewis Choice] wedi newid fy mywyd a dweud y gwir, ac allaf i ddim pwysleisio hynny ddigon.”Goroeswr trais a cham-drin domestig hŷn 

Y tîm ymchwil 

Y Tîm Presennol: Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd; Rebecca Zerk; Elize Freeman  

Y Tîm ymarfer 

David Cowsill;  Tom Chapman; Rachel Rae; Lisa Taylor 

Tîm Dewis Choice cyn 2018: Sarah Wydall, Prif Ymchwilydd; Rebecca Zerk; Yr Athrawon Emeritws Alan Clarke, John Williams, Jeremy Newman, Elize Freeman, Carmel Boston  

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn