Ar ôl bod yn athrawes ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn Syria o’r blaen, roedd Zaina yn awyddus i barhau â’i gyrfa yn y DU, ond ni allai ddechrau astudio nes iddi gael cynnig lloches.

Wrth aros i ddechrau ei gradd Meistr ym Mhrifysgol De Cymru, penderfynodd adeiladu ar sgiliau eraill, gan ddilyn cyrsiau mewn Iaith Arwyddion Prydain, ysgrifennu creadigol, cyfieithu ar gyfer busnes a hyd yn oed cwrs Cymraeg i ddechreuwyr. Bu hefyd yn gweithio fel cyfieithydd ar y pryd i gwmnïau cyfreithiol, gan helpu siaradwyr Arabeg i gael mynediad at gyngor cyfreithiol er mwyn sicrhau eu statws i aros yn y DU.

Tra’n astudio, bu Zaina yn gweithio fel intern gyda’r Groes Goch Brydeinig, ar eu rhwydwaith VOICES - casgliad o lysgenhadon yn eirioli ar faterion sy'n effeithio ar ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio lloches.

Trwy ei hinterniaeth gyda VOICES, dysgodd Zaina dechnegau gwneud podlediad - gan gynnwys defnyddio'r meicroffonau, recordio, meddwl am syniadau - a chreu The Kind Place - cyfres o bodlediadau sy'n rhannu profiadau pobl sy'n ceisio lloches yn y DU. Enillodd y podlediad wobr Grassroots yng Ngwobrau Cynhyrchu Sain 2021, sy'n dathlu sgiliau cynhyrchu podlediadau, radio a llyfrau sain.

Cwblhaodd Zaina ei gradd Meistr yn 2022 ac mae bellach yn gweithio yn City of Sanctuary ochr-yn-ochr ag Addysg Oedolion Cymru.