Er iddi gael diagnosis o gyflwr fyddai’n cyfyngu ar ei bywyd yn 16 oed, anwybyddodd Tina ragolygon y meddygon o'r hyn oedd gan y dyfodol i’w gynnig i ddioddefwr Friedreich’s Ataxia a dewisodd fyw bob dydd fel y daw.

Ar ôl graddio gyda BA mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth, dechreuodd Tina ei gyrfa gyda BBC Cymru lle bu’n gweithio fel ymchwilydd yn yr Adran Addysg ac yna Radio Cymru. Bedair blynedd yn ddiweddarach, symudodd ymlaen i Anabledd Cymru, lle daeth ei sgiliau yn y cyfryngau yn ddefnyddiol iawn yn ei rôl fel swyddog cyfathrebu digidol a chynhwysiant.

Nid yw Tina yn ddieithr i sgrin S4C, gan ei bod wedi ymwneud â rhaglenni fel Bwrdd i dri, Taith Fawr y Dyn Bach a Dathlu. Ac, yn 2022, fe’i gwahoddwyd i fod yn rhan o dîm gohebu BBC Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, lle bu’n rhoi sylwebaeth ar ddigwyddiadau yn Birmingham ac yn y felodrom yn Llundain. Bu Tina hefyd yn cyflwyno adroddiadau ar y para-triathlons yn ystod haf 2023.

Gan gadw’n bositif a dal ati i chwilio am anturiaethau newydd, mae Tina’n barod i herio rhwystrau a dod o hyd i atebion er mwyn sicrhau bod ganddi hi ac eraill gyfleoedd i wneud y pethau maen nhw’n eu caru mewn bywyd. Mae hi wedi cymryd rhan mewn pob math o heriau corfforol, megis arfordira, a dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2023. Ar y pryd roedd hi'n ymarfer ar gyfer triathlon SuperHero.

Ei hesboniad am ei holl orchestion a'i dewrder anhygoel yw, 'Wel mae ynof fi. Unrhyw beth sy'n bosibl i mi, fe roddaf gynnig arni'.

"Y brifysgol oedd y sbardun i fy annibyniaeth, hunan-gred, twf a gyrfa. Mae’n rhan bwysig o fy mywyd."