Gadawodd Sharon yr ysgol yn 15 oed heb unrhyw gymwysterau, a bu'n gweithio ym maes addurno ffenestri yng Ngogledd Cymru nes iddi gael ei mab a'i merch. Yna bu’n gweithio mewn cartrefi gofal nes iddi fynd i fyw i Brestatyn fel rhiant sengl.

Ym 1989 dechreuodd Sharon weithio yn Ysbyty Glan Clwyd fel glanhawr cyn gweithio fel nyrs gynorthwyol ar y ward bediatrig am 7 mlynedd. Symudodd wedyn i'r adran cleifion allanol ENT ym 1995 gan ennill ei NVQ Lefel 111 mewn gofal all-gleifion. Bob dydd Mawrth, roedd Canolfan Oncoleg Clatterbridge yn cynnal clinig cyswllt yn yr adran ENT ac wrth weithio i dîm Clatterbridge y bu iddi syrthio mewn cariad ag oncoleg a gofal cleifion canser.

Yn 2000, gwnaeth Sharon gais i ymgymryd â hyfforddiant nyrsio ym Mhrifysgol Bangor.

Dywed Sharon ei bod yn teimlo fel sbwng yn ystod tair blynedd ei chwrs ym Mangor, ei bod yn sychedig am ddysgu ac wedi mwynhau pob eiliad o fywyd prifysgol. Dywed fod ei bywyd wedi newid ar ôl mynychu'r brifysgol ac ennill ei gradd. Yn bersonol, dyblodd ei chyflog a gwellodd hynny ansawdd ei bywyd gartref; yn broffesiynol roedd bellach yn nyrs gymwysedig gyda'r wybodaeth, y dyfalbarhad a'r egni i wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion.

Yn 2004, dechreuodd Sharon fel nyrs staff ar y ward oncoleg. Yna symudodd i'r adran all-gleifion oncoleg, gan weithio ochr-yn-ochr ag ymgynghorwyr tra'n cynnig cefnogaeth i gleifion trwy ymgynghoriadau a phenderfyniadau triniaeth anodd iawn yn aml.

Yn 2008, ymgymerodd Sharon â swydd secondiad mamolaeth 10 mis fel Nyrs Arbenigol Canser yr Ysgyfaint. Yma syrthiodd mewn cariad â rôl y nyrs arbenigol, fyddai’n caniatáu iddi roi amser o ansawdd i gleifion a meithrin perthnasoedd gofal personol unigol fel y gallai gynnig cefnogaeth lawn trwy gydol pob cam o'u taith canser.

Yn 2011 daeth Sharon yn Nyrs Arbenigol Macmillan Oncoleg Gynaecoleg. Gall cleifion canser yr ofari yn ystod cam lliniarol eu clefyd ddioddef o ascitau llidiog (croniad poenus o hylif yn leinin yr abdomen) a all arwain yn aml at fod angen sawl draeniad a nifer o ymweliadau â’r ysbyty. Roedd Sharon eisiau newid y gwasanaeth hwn i gleifion ac aeth ati i chwilio am ddraen parhaol a darganfod 'Rocket Drain'.

Mae'r gwasanaeth hwn yn newid bywydau gan ei fod yn caniatáu i gleifion ddraenio hylif asgitig o'u habdomen gartref, yn hytrach na gorfod mynd i'r ysbyty i gael eu draenio. Mae hyn yn lleihau nifer yr ymweliadau â’r ysbyty a'r oriau o deithio i'r ganolfan ddydd ar gyfer draenio. Mae hyn yn gwella camau lliniarol neu derfynol bywyd y claf, gan roi mwy o amser o ansawdd i'r claf gyda'i anwyliaid gartref neu yn y man lle byddai'n well ganddynt farw.

Mae'r driniaeth hon bellach ar gael ar draws y tri Ysbyty Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd yng Ngogledd Cymru.

Yn 2017, enillodd Sharon Wobr Arloesedd Macmillan a Chymrodoriaeth Macmillan, am arloesi gyda’r defnydd o’r Gwasanaeth Rocket Drain. Yn 2018, fe’i gwahoddwyd i Balas Buckingham, fel rhan o ddathliadau 70 mlwyddiant y GIG a chafodd ei gwahodd i 10 Stryd Downing, fel rhan o Ben-blwydd y GIG yn 75 yn 2023.

Yn 2021 dyfarnwyd y teitl Darlithydd Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor i Sharon a derbyniodd MBE am ‘wasanaeth i ofal cleifion canser’ yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2024.

Dywed Sharon ei bod yn teimlo'n freintiedig iawn, yn falch ac yn hynod ostyngedig o fod wedi ennill yr anrhydedd hon. Bydd hi'n ei chyflwyno i'r holl fenywod hardd y mae hi wedi gofalu amdanyn nhw a'r teuluoedd roedd hi'n rhoi cymorth iddyn nhw, gan mai nhw yw’r gwir arwyr.

Newidiodd y cyfle i fynd i'r brifysgol yn 43 oed fy mywyd yn gyfangwbl.   Caniataodd dod yn nyrs gofrestredig i mi wneud gwahaniaeth i fywydau cleifion, i wella eu taith ganser a gofal ar ddiwedd eu bywyd.