Ganed Ryan Eddowes gyda Bilateral Congenital Talipes Equinovarus, a elwir hefyd yn “draed clwb”. Mae’n gyflwr sy'n effeithio ar siâp y traed, y fferau a’r coesau, sy'n achosi poen ac anghysur dyddiol iddo, ac yn golygu na all sefyll na cherdded am gyfnodau hir. Wrth dyfu i fyny, datblygodd angerdd am fyd natur a gwyddai ei fod eisiau gyrfa gydag anifeiliaid.

Pan oedd ond yn 13 oed dywedwyd wrtho mai dim ond 3 opsiwn oedd ganddo oherwydd difrifoldeb ei draed clwb: Gwneud dim a bod yn gaeth i gadair olwyn; cael llawdriniaeth arall i geisio cywiro’r cyflwr neu i dorri ei draed i ffwrdd a chael coesau prosthetig yn eu lle.

Yn dilyn yr opsiynau hyn, cynghorwyd Ryan na fyddai bywyd yn gweithio gydag anifeiliaid yn bosibl oherwydd yr amser y byddai’n ei dreulio ar ei draed. Er gwaethaf hyn, aeth Ryan ymlaen i gwblhau diploma rheoli anifeiliaid mewn gofal anifeiliaid a chymhwyso fel gofalwr anifeiliaid.

Ryan oedd yr un cyntaf yn ei deulu i fynd i'r brifysgol. Rhoddodd astudio Sŵoleg ym Mangor gyfle iddo arallgyfeirio i sawl maes gan gynnwys gofal anifeiliaid, cadwraeth bywyd gwyllt, cyfryngau bywyd gwyllt ac eiriolaeth newid hinsawdd.

Tra’n astudio, bu Ryan yn gweithio yn Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Bangor a theithiodd yn rhyngwladol i ymchwilio a ffilmio bywyd gwyllt. Ers graddio, mae wedi gweithio fel dyn camera/cyflwynydd bywyd gwyllt, cydlynydd, darlithydd rheolaeth anifeiliaid, hyfforddwr, tywysydd teithiau Saffari i bwysigion, tywysydd teithiau bws-mini a cheidwad sw. Gofynnir yn aml iddo fynychu ysgolion, colegau a phrifysgolion i draddodi sgyrsiau am ei fywyd ym maes cadwraeth bywyd gwyllt/cyfryngau ac mae'n llysgennad ac eiriolwr cryf dros fynd i’r brifysgol.

Dywed Ryan fod y brifysgol wedi ei ddatblygu fel person a’i helpu i feithrin yr hyder i siarad â phawb.

 “Mae prifysgol i mi yn golygu synnwyr o ystyr, mae’n llwybr o hunan-ddarganfod, meithrin annibyniaeth, trysori eiliadau bythgofiadwy a chreu straeon gydol oes i’w hadrodd.”