Mae Rebecca Davies, sydd â gradd MDes mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau, yn cael ei chyflogi fel Dylunydd Arbenigol gyda Rolls-Royce Motor Cars Limited, ED-R-UK.

Cyn hynny, roedd wedi sicrhau interniaeth gyflogedig gyda Rolls-Royce trwy Goleg Celf Abertawe'r Brifysgol a threuliodd 13 mis fel rhan o dîm dylunio unigryw'r cwmni, sydd wedi'i leoli rhwng Goodwood a Munich. Arweiniodd hyn at ei rôl bresennol gyda'r cwmni.

Mae Rebecca, y genhedlaeth gyntaf o’i theulu i fynd i addysg uwch, yn canmol y Brifysgol am ei galluogi i ddilyn gyrfa greadigol. Mae hi'n dweud:

“Un o’r newidiadau mwyaf y mae mynd i’r brifysgol wedi’i wneud i fy mywyd yw cael y system gefnogaeth gan ddylunwyr anhygoel y bûm yn astudio gyda nhw, a’r darlithwyr a thechnegwyr gwych sydd wedi dysgu imi bopeth rydw i’n ei wybod am ddylunio nawr.

Dewis astudio dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau oedd y tro cyntaf i mi deimlo fy mod yn cael cefnogaeth i ddilyn gyrfa greadigol. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i mi weld holl gyfleoedd a chorneli’r diwydiant creadigol a fyddai ar gael i mi. Agorwyd fy llygaid i ystod eang o wahanol gyfleoedd a ddyfnhaodd fy syniad o'r hyn y gallai bod yn ddylunydd ei olygu. Newidiodd hyn lwybr fy ngyrfa yn llwyr.

Daeth y cyfle ar gyfer yr interniaeth gyda Rolls-Royce trwy’r brifysgol; roedd yn rhywbeth na fyddwn i byth wedi chwilio amdano, ac mae gallu aros ymlaen gyda nhw fel Dylunydd Arbenigol byth ers hynny, wedi bod yn brofiad eithriadol. Roeddwn i'n gwybod y byddai'n her, ond roeddwn i'n teimlo'n hyderus fy mod wedi cael set gref o fedrau i'm rhoi ar ben ffordd.

Gyda’r gefnogaeth a’r hyder a ddatblygais trwy fy nghwrs, ynghyd â’r holl wybodaeth am ddylunio technegol, rwyf wedi gallu dechrau gyrfa mewn dylunio na fyddwn wedi credu’n bosibl cyn fy astudiaethau.”

"Cynigiodd y brifysgol ystod eang o wahanol gyfleoedd a newidiodd fy llwybr gyrfa yn llwyr."