Dyma stori Hayley:

"Penderfynais fy mod i eisiau mynd i'r brifysgol ac astudio hanes ar ôl ymchwilio i'm coeden deuluol fy hun. Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am fywydau pobl hanesyddol, tra'n hogi fy sgiliau ymchwilio a gobeithio ennill cymhwyster a allai agor drysau i mi o ran gyrfa.

I mi, y peth mwyaf gwerthfawr am fynd i’r brifysgol oedd yr hwb a roddodd hyn i fy hyder. Rwyf wedi dioddef o iselder a gorbryder ers blynyddoedd lawer, ac ymrestrais gyda'r ddealltwriaeth, pe bawn i’n teimlo na allwn i ymdopi, y byddwn yn gallu cerdded i ffwrdd o’r cwrs

Roedd yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd i'r gwrthwyneb yn llwyr, a gyda phob aseiniad a basiais, dechreuais gredu fy mod yn gallu cyflawni mwy. Fe ddechreuais ar fy nghwrs yn disgwyl rhoi'r gorau iddi ... Des i allan gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, ac mae gen i radd Meistr hefyd.

O safbwynt proffesiynol, dydw i ddim eto’n gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig â'm gradd oherwydd ymrwymiadau teuluol. Fodd bynnag, rwyf wedi drafftio cynnig PhD, sydd wedi cael derbyniad da gan yr academyddion yr wyf wedi cysylltu â hwy, a’r gobaith yw y byddaf yn ymgymryd â’r cymhwyster hwn yn y dyfodol agos.

Mae mynd i'r brifysgol wedi gwneud rhyfeddodau i'm hunan-barch, ac rwyf wedi symud ymlaen o fod yn amheus ac yn anghrediniol i fod yn hyderus ac yn sicr o'm galluoedd fy hun. 

Byddwn yn cynghori unrhyw un i fynd i brifysgol. Hyd yn oed os nad ydych yn dod allan gyda gyrfa yn eich dewis faes, mae'r sgiliau y byddwch chi’n eu dysgu yn y brifysgol yn berthnasol i nifer o wahanol swyddi. Ac fel fi, gallai wneud rhyfeddodau i'ch hunan-werth a'ch hyder, nodweddion sydd hefyd yn werthfawr i ddarpar gyflogwyr, yn ogystal ag i chi'ch hun."

"Mae mynd i'r brifysgol wedi gwneud rhyfeddodau i'm hunan-barch, ac rwyf wedi symud ymlaen o fod yn amheus ac yn anghrediniol i fod yn hyderus ac yn sicr o'm galluoedd fy hun."