Dechreuodd taith Germaine ym Met Caerdydd pan gyfarfu ag aelod o staff o’r gwasanaeth Ehangu Mynediad yng Nghanolfan Waith Alexandra yn 2018 a’i hanogodd i wneud cais am le yn y Brifysgol.

Gan ddilyn ei chyngor, cofrestrodd ar y System Ryngwladol ar gyfer Profi Iaith Saesneg (IELTS) a dau gwrs achrededig, a roddodd iddi’r cymwysterau angenrheidiol i gael lle ar y cwrs Sylfaen.

Dyma stori Germaine:

“Pan oeddwn i ar y cwrs Sylfaen, darganfyddais Astudiaethau Tai ac yna cefais wybod gan gyfarwyddwr y rhaglen y gallai fy nghefndir yn y Gyfraith gael ei drosglwyddo i Astudiaethau Tai. Roedd astudio ym Met Caerdydd hefyd yn ffordd o herio fy ngallu deallusol ac i osod esiampl i'm plant ei dilyn.

Mae’r rhaglen Astudiaethau Tai yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu allan i’r cwrs yr wyf wedi bod yn awyddus i ymwneud â nhw, gan gynnwys sgiliau astudio, cynlluniau mentora, Llwybr i’r Bwrdd a Shelter Cymru. Trwy leoliad gwaith gyda Thai Taf, llwyddais i sicrhau rôl fel Cynorthwyydd Prosiect o fewn y sefydliad, gyda llawer o lwybrau dilyniant gyrfa yn y dyfodol.

O wythnos gyntaf y cwrs Astudiaethau Tai, cefais groeso cynnes. Buan iawn y daeth yr adran fel teulu bach i ni, ac roedd yn hawdd cael cymorth gan ein darlithwyr. Cawn ein trin fel aelodau gwerthfawr o’r adran a gallwn sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed, a thrwy hynny siapio’r addysgu o amgylch ein hanghenion cymaint â phosibl.

Rwyf wedi elwa’n aruthrol o wybodaeth a phrofiad fy nhiwtor personol, gan gynllunio camau dyddiol gyda’n gilydd, fy nghyfeirio at adnoddau defnyddiol a fy atgoffa i ddathlu’r hyn rwyf wedi’i gyflawni.

Rwy’n credu mai prifysgol yw’r allwedd i ddyfodol llwyddiannus, ac rwy’n gwybod y gall greu newid ym mywydau pobl. Rwy'n falch o'r person newydd, gwell rydw i bellach, diolch i'r cyfleoedd ym Met Caerdydd."

Rwy’n credu mai prifysgol yw’r allwedd i ddyfodol llwyddiannus, ac rwy’n gwybod y gall greu newid ym mywydau pobl.