Mae Elisha yn credu mewn adeiladu partneriaethau gyda chymunedau lleol i greu newid cadarnhaol. Fel rhan o dîm Ehangu Mynediad PCyDDS mae hi’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau a busnesau i gynnig mwy o gyfleoedd i’r cymunedau hynny.

Mae ei gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar ei chymuned ei hun ym Mlaen-y-Maes yn Abertawe, lle dechreuodd wirfoddoli yn 12 oed. Mae’r Ganolfan yn ofod sy’n cael ei werthfawrogi ac yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer pobl leol. Mae’n cynnwys banc bwyd, siop ddillad gymunedol, gardd i dyfu llysiau, hyb casglu sbwriel a chynllun rhannu bwyd sy’n dosbarthu bwyd am ddim fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi. Mae hefyd yn darparu mynediad i lawer o adnoddau eraill megis cyfrifiaduron, argraffu a chynghori am ddim.

Mae Elisha yn angerddol ynghylch galluogi lleisiau cymuned Blaen y Maes i gael eu clywed, yn ogystal â meithrin cysylltiadau a chreu cyfleoedd i aelodau’r gymuned. Mae ei gwaith yn PCyDDS wedi arwain at ddatblygu partneriaeth rhwng y Ganolfan a’r Brifysgol sy’n darparu cyfleoedd i’r gymuned leol gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu i deuluoedd ac oedolion.

Am ei chyfnod yn y brifysgol, dywedodd Elisha:

“Rhoddodd mynd i'r brifysgol gyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi'u dychmygu. Roeddwn yn gallu dysgu ar lefel arall, gwella fy set sgiliau ac, yn ogystal â hyn, fe newidiodd fy mywyd. Rwy'n credu’n gryf y gall prifysgol fod yn addas i unrhyw un. Crëwyd llwybr y funud y dechreuais fy ngradd, a byddaf yn parhau i fynd ar drywydd fy uchelgeisiau ble bynnag y bydd hynny'n mynd â mi nawr.

“Mae ymuno â’r tîm Ehangu Mynediad hefyd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi, ac mae wedi bod yn fraint wirioneddol i roi yn ôl, nid yn unig i fy nghymuned fy hun ond i eraill hefyd. Rwy’n teimlo’n angerddol am y gwaith y mae Ehangu Mynediad yn ei wneud, ac rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o’r daith o newid y naratif ac agor cyfleoedd newydd a chyffrous.”

Roedd mynd i'r brifysgol wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi'u dychmygu.