Yn wreiddiol o Lundain, mae Ben yn angerddol am adrodd straeon ar ffurf fer a chyflwyno ffilmiau byrion i gynulleidfaoedd newydd.

Ar ôl cyfnod yn Llundain, symudodd Ben i'r Unol Daleithiau ac ymgartrefu yn Efrog Newydd. Yno ymunodd â’r tîm yng Ngŵyl Ffilm enwog Tribeca, un o wyliau ffilm mwyaf blaenllaw’r byd – gan godi trwy’r rhengoedd i fod yn Rhaglennydd Ffilm Fer iddynt, ac yn ddiweddar i fod yn Is-lywydd Rhaglennu Ffilmiau Byrion Tribeca.

Pan nad yw'n rhaglennu ffilmiau byrion, mae'n eu cynhyrchu nhw, gan gynnwys Yellow Balloon sydd wedi ennill sawl gwobr, a ddewiswyd fel rhan o gasgliad parhaol yr Amgueddfa Celf Fodern.

Mae Ben yn angerddol dros roi llwyfan i leisiau a straeon Cymreig, ac enillodd Heart Valley, ffilm a saethwyd yn lleol yng Ngheredigion, y categori ar gyfer ffilm ddogfen fer yn Tribeca yn 2022.

Treuliodd Ben hefyd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yng Ngŵyl Ffilm Abu Dhabi, ac mae wedi bod yn ymgynghorydd rhaglennu ar gyfer llawer o wyliau eraill.

Mae Ben wedi’i swyno gan leisiau a straeon newydd o wahanol ddiwylliannau ac ieithoedd, ac mae’n teithio’n eang i chwilio am straeon newydd o bob rhan o’r byd.

Diolch i haelioni Ben, a chefnogaeth ei gydweithwyr yn Tribeca, mae Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Aberystwyth, wedi gallu anfon grwpiau o fyfyrwyr allan i Efrog Newydd i gael profiad o'r ŵyl. Maent wedi mynychu sawl première byd a dosbarthiadau meistr gydag enwau cyfarwydd gan gynnwys Robert De Niro, Martin Scorsese, Jennifer Lawrence, Scarlett Johansson, a Whoopi Goldberg.

Mae'r rhain yn brofiadau gwirioneddol ysbrydoledig a thrawsnewidiol i fyfyrwyr Aberystwyth.

Mae Ben hefyd wedi rhannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr yn Aberystwyth ar sawl achlysur, gan roi awgrymiadau a mewnwelediad i gyflwyniadau a strategaethau ar gyfer gwyliau ffilm.

 “Dydw i ddim yn meddwl eich bod chi'n sylweddoli faint mae’r profiad o fynd i’r brifysgol yn siapio pwy ydych chi a phwy fyddwch chi yn y dyfodol. Mae’r treiddio’r tu mewn i chi ac mae'n gyfnod mor bwysig o'ch bywyd."