Roedd Amy Dillwyn, 1845–1935, yn awdur Cymreig, yn ymgyrchydd ffeministaidd ac yn un o'r diwydianwyr benywaidd cyntaf ym Mhrydain. 

Ysgrifennodd Dillwyn chwe nofel ar themâu sy’n cynnwys ffeministiaeth a diwygio cymdeithasol. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu’n gyson – ac yn ddienw – ar gyfer cylchgrawn The Spectator. Pan fu farw ei thad yn 1892, etifeddodd Dillwyn ei waith sbelter, a oedd mewn dyled am swm a fyddai cyfwerth â rhai miliynau o bunnoedd heddiw. Arbedodd Dillwyn y busnes, ac yn ddiweddarach gwerthodd ei chyfranddaliadau i gwmni o’r Almaen.

Er iddi gael ei galw'n ‘un o'r menywod mwyaf nodedig ym Mhrydain Fawr’ ar un adeg,' nid oedd Dillwyn yn hysbys iawn erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn 1987, ysgrifennodd David Painting ei bywgraffiad ond ni ddatgelodd ei rhywioldeb. Ni wnaeth beirniaid sylwi ar y dyhead tuag at yr un rhyw, sy’n sylfaenol i’w ffuglen ffeministaidd, ychwaith. 

Aeth yr Athro Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe ati i ddarganfod pwy oedd yr Amy Dillwyn go iawn.

Darganfod pwy oedd yr Amy Dillwyn go iawn

Gwnaeth yr Athro Bohata nodi bod Dillwyn yn awdur allweddol llenyddiaeth cwiar yn ystod oes Fictoria, ac yn ddyddiadurwr, sy'n taflu goleuni newydd ar hunaniaethau rhywedd-cwiar a dyhead tuag at yr un rhyw.

Ymchwiliodd yr Athro Bohata i'r archifau a defnyddiodd ddamcaniaethau beirniadol cysylltiedig i ddangos sut y ceir cysylltiadau rhwng naratifau’r dyhead tuag at yr un rhyw yng ngweithiau Dillwyn â hunaniaeth traws, hunaniaeth dosbarth a hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

Gan hynny, gwnaeth gwaith yr Athro Bohata gyfraniad pwysig i feysydd astudiaethau cwiar, gweithiau awduron Cymreig yn Saesneg, a dadleuon rhyngwladol ar y berthynas rhwng rhyw, rhywioldeb, cenedl a dosbarth mewn ysgrifennu Fictoraidd. 

Codi ymwybyddiaeth o lenyddiaeth a hanes cwiar

Mae ymchwil yr Athro Bohata ar Amy Dillwyn wedi codi ymwybyddiaeth o brofiadau menywod mewn hanes ac wedi dangos pwysigrwydd llenyddiaeth a hanes cwiar, yn enwedig ymhlith cynulleidfaoedd  LHDTC+.

Mae ei gwaith wedi trawsnewid Dillwyn o fod yn awdur dibwys i fod yn ffigwr enwog yn llenyddiaeth a hanes ffeministaidd cwiar Cymru. O ganlyniad, mae papurau Dillwyn, a oedd dan embargo yn flaenorol, bellach yn Archifau Richard Burton ac ar gael i'r cyhoedd.

Mae cynulleidfaoedd newydd wedi cael eu cyflwyno i Amy Dillwyn drwy ddramâu, blogiau, peintiadau a cherfluniau, rhaglen ddogfen, ymddangosiadau darlledu gan yr Athro Bohata, a rhifyn print o ddyddiaduron Amy Dillwyn.

Mae'r Athro Bohata yn rhoi sgyrsiau rheolaidd i sefydliadau cenedlaethol a lleol, gan gynnwys grwpiau LHDTC+ ac ysgol gynradd, gwneuthurwyr rhaglenni dogfen a darlledwyr.  Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar Amy Dillwyn ar gyfer y papurau newydd cenedlaethol ac ar gyfer Diva, sef prif gylchgrawn lesbiaidd y DU.

At ei gilydd, mae ymchwil yr Athro Bohata wedi cyrraedd tua 500,000 o bobl o bosibl.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Kirsti Bohata

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn