Ar ddechrau pandemig COVID-19, nid oedd tueddiadau’r clefyd yng Nghymru bob amser yn cyd-fynd ag ardaloedd eraill yn y DU. Fodd bynnag, roedd llawer o’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gynllunio yn seiliedig ar senarios ar lefel y DU. Canlyniad hyn, mewn un bwrdd iechyd yng Nghymru, oedd gorddarpariaeth sylweddol o staff gofal critigol ar gyfnod allweddol. 

Mae penderfyniadau ynghylch iechyd a rheoli clefydau yng Nghymru wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, a alwodd eu Cell Cyngor Technegol ynghyd er mwyn rhoi cyngor gwyddonol brys ar gyfer y pandemig. Nododd y Gell Cyngor Technegol fod angen brys am fodelau mathemategol pwrpasol ar gyfer lledaeniad COVID-19 a’i effaith ar ysbytai lleol yng Nghymru, a chrëwyd Tîm Modelu Abertawe mewn ymateb i hyn. 

Datblygu offeryn modelu

Daeth yr Athro Gravenor a'r Athro Lucini â thîm rhyngddisgyblaethol ynghyd a oedd yn gyfuniad o arbenigedd mewn epidemioleg, mathemateg a pheirianneg meddalwedd. O dan gryn bwysau amser, gwnaeth y tîm ddatblygu eu prif offeryn ymchwil, sef Model Abertawe.

Defnyddiodd y tîm ddata o Gymru, gan gynnwys demograffeg, achosion oed-benodol, derbyniadau i’r ysbyty, derbyniadau gofal critigol a marwolaethau, i fodelu pob ardal awdurdod lleol ar wahân. Yna, defnyddiwyd y model i amcangyfrif y rhif R (atgynhyrchu), ac i ddeall lledaeniad y feirws yng Nghymru a sut y gellid ei reoli.

Cynlluniodd y tîm ymchwil god i amserlennu senarios polisi manwl yn unol â chais rhanddeiliaid allweddol ac i archwilio opsiynau ar gyfer newidiadau i ffactorau penodol. 

Adolygwyd Model Abertawe yn helaeth dros sawl iteriad gan gydweithwyr yn y Gell Cyngor Technegol, is-grŵp modelu y Gell Cyngor Technegol a Fforwm Modelu Cenedlaethol y GIG. Bu’r tîm ymchwil yn gweithio’n feunyddiol gyda chlinigwyr, cynllunwyr y GIG, a gwleidyddion er mwyn cael data realistig i’w fewnbynnu, i ganolbwyntio ar y cwestiynau mwyaf dybryd, ac i egluro cyfyngiadau a rhagfynegiadau’r model. 

Lleihau nifer y derbyniadau i ysbytai a marwolaethau

Gwnaeth Model Abertawe lywio penderfyniadau polisi iechyd gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Fe’i defnyddiwyd ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru a gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Roedd y model yn galluogi’r gwasanaeth iechyd i ddarparu nifer diogel ac effeithlon o staff gofal critigol ledled Cymru yn seiliedig ar senarios cynnar a chywir ar gyfer cynllunio capasiti ysbytai, ac i gynllunio’n gywir ar gyfer galw difrifol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn seiliedig ar senarios cynnar a chywir.

Fe’i defnyddiwyd hefyd fel sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau cenedlaethol mawr, er enghraifft, ‘y cyfnod atal byr’ ym mis Hydref yng Nghymru a ostyngodd y gyfradd R, a oedd yn uchel iawn, i lai nag 1. Darparodd y model amcangyfrifon cywir o'r amser adlam ar ôl y cyfnod atal byr, er mwyn cefnogi gwaith cynllunio. Dros y cyfnod, amcangyfrifwyd bod 5,000 yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty, 350 yn llai o dderbyniadau i unedau gofal dwys, gostyngiad o 33% yn uchafswm y nifer o bobl yn yr unedau gofal dwys, a 1,100 yn llai o farwolaethau.

Defnyddiwyd y model hefyd i lywio’r ymyriadau dilynol a ddaeth â’r epidemig dan reolaeth erbyn diwedd mis Rhagfyr ar ôl gaeaf heriol a chynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo yn dilyn amrywiolion newydd. Fe’i defnyddiwyd i fodelu effaith rhaglenni brechu a oedd yn datblygu a’r mapiau trywydd i leddfu'r cyfyngiadau symud ar ddechrau 2022.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Biagio Lucini, yr Athro Mike Gravenor, Ed Bennett, Mark Dawson a Ben Thorpe: Tîm Modelu Abertawe – Prifysgol Abertawe

Partneriaid ymchwil

Cell Cyngor Technegol Cymru, Is-grŵp Modelu Cell Cyngor Technegol Cymru, Llywodraeth Cymru, Uwchgyfrifiadura Cymru, Y Grŵp Gwyddonol ar Ffliw Pandemig – Modelu, UKRI, Microsoft.

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn