O roi cymorth i fyrddau iechyd lleol gyda chyfleoedd hyfforddi, llety ar gyfer gweithwyr allweddol a darparu offer hanfodol fel masgiau a ffedogau, i agor Canolfan Waed, darparu parcio am ddim i weithwyr y GIG a chynnig cyfleusterau i wasanaethau golau glas ar gyfer cyrsiau hyfforddi, mae ein Prifysgolion yn gwneud cyfraniadau anhygoel i gynorthwyo’r GIG a’u cymunedau lleol, a dyma rai enghreifftiau

Offer, cyfleusterau, ac adnoddau meddygol

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi sefydlu Canolfan Waed ar eu campws yn Llandaf mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwaed Cymru ac wedi benthyca dau beiriant platfform Thermo Fisher 7500 ABI Fast i gynorthwyo â gwell profion ar gyfer Covid-19.

Mae ystafelloedd hyfforddi sgiliau clinigol ar gampws Prifysgol Abertawe, yn ogystal â’r labordy sgiliau clinigol yn Ysbyty Treforys, wedi’u rhyddhau at ddefnydd y GIG. Hefyd, mae cyfleusterau 3D yn y Brifysgol yn cael eu defnyddio i argraffu rhannau ar gyfer awyrydd.

Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd yn darparu lle yn eu hadeiladau i fyrddau iechyd lleol er mwyn cynyddu eu gallu i drin achosion brys. Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn troi un o’i hadeiladau yn gyfleuster hyfforddi ar gyfer staff y GIG.

Mewn ymgynghoriad â GIG Cymru, mae Prifysgol Caerdydd yn gosod myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd sydd yn eu blwyddyn olaf ar lwybr carlam, er mwyn iddyn nhw fod ar gael i gynorthwyo timau rheng flaen y GIG, ac mae 300 o fyfyrwyr meddygaeth Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4 wedi cofrestru ar gyfer ‘banc gwirfoddoli’ i gefnogi’r GIG.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhoi Offer Amddiffynnol Personol, fel ffedogau, masgiau a sbectols amddiffynnol, i’w ddefnyddio gan staff rheng flaen y GIG. Mae Prifysgol Bangor hefyd yn cynhyrchu glanweithydd dwylo i’w ddosbarthu i’r GIG.

Hyfforddiant, ymchwil ac arbenigedd

Mae staff ar gyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr yn cynorthwyo’r GIG mewn meysydd fel hyfforddiant brys mewn gofal anadlol clinigol. Mae Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi / adnewyddu sgiliau i staff sy’n cael eu drafftio’n ôl i’r gwasanaeth iechyd.

Mae Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd prifysgolion i ddarparu hyfforddiant gofal critigol i staff gofal nad ydynt fel arfer yn ymdrin ag achosion critigol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn un o nifer o sefydliadau academaidd sy’n cefnogi consortiwm dilyniannu genomau newydd i fapio lledaeniad COVID-19. Drwy edrych ar y genom firws cyfan mewn pobl sydd wedi eu cadarnhau fel achosion o COVID-19, gall gwyddonwyr fonitro newidiadau yn y feirws ar raddfa genedlaethol, er mwyn deall sut mae’r firws yn lledaenu ac a oes gwahanol fathau yn dod i’r amlwg.

Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn archwilio effaith yr epidemig ar bobl mewn darn o ymchwil sydd newydd ei gomisiynu ar gyfer adrannau seicoleg y sefydliadau.

Mae fideos hyfforddi wedi’u ffilmio yng Nghanolfan Efelychu Clinigol Prifysgol De Cymru er mwyn dangos sut i ddefnyddio peiriannau anadlu a CPAP (Continuous Positive Airway Pressure). Defnyddir y fideos hyn i hyfforddi staff rheng flaen.

Yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Canolfan Gweithgynhyrchu Fesul Llwyth Cymru yn cyfrannu at brosiectau fel datblygu mwgwd awyru anfewnwthiol, sy’n cynnwys dylunio rhannau newydd, cynhyrchu rhai cydrannau ychwanegol a chreu peiriant anadlu brys ar gyfer y pandemig – sydd yn hawdd ei gynhyrchu at ddefnydd dros dro, a gellir ei wneud yn lleol.

Llety a gwasanaethau

Mae myfyrwyr Meddygaeth ar y cwrs Graddedigion ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig gofal plant brys i staff y GIG, a fydd yn caniatáu iddynt barhau i gynnig gofal rheng flaen.

Mae staff y GIG yn cael cynnig llety yn rhai o neuaddau preswyl Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal â Phrifysgol Bangor, ac mae Prifysgol Wrecsam Glyndŵr wedi bod mewn cysylltiad ag Ysbyty Maelor ynghylch anghenion llety tymor byr posibl ar gyfer gweithwyr allweddol.

Cymorth Cymunedol

Mae Prifysgol Wrecsam Glyndŵr wedi creu modiwl ar-lein am ddim o’r enw ‘Y Dysgwr Hyderus’ i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd yn y Brifysgol ar ôl colli eu tymor olaf yn yr ysgol neu’r coleg.

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi sefydlu grŵp cymorth ar Facebook i helpu i fynd i’r afael â theimladau o unigrwydd yn sgil cael eich ynysu.

Bydd y Brifysgol Agored yn mynd ati i hyrwyddo adnoddau OpenLearn am ddim cyn bo hir, gan gynnwys deunyddiau OpenLearn dwyieithog yng Nghymru. Mae’r rhain yn adnoddau addysgol agored am ddim sy’n darparu mwy na 12,000 awr o ddeunydd astudio ar-lein.

Sefydlodd ymchwilwyr meddygol yng Nghanolfan PRIME Prifysgol Caerdydd y wefan “Pryd Ddylwn i Boeni?”, er mwyn darparu gwybodaeth i rieni am reoli heintiau’r frest (peswch, annwyd, dolur gwddf a phoenau clust) mewn plant. Yn ddiweddar, fe helpodd fam babi ifanc i adnabod symptomau coronafeirws.

Mae grŵp o 30 o fyfyrwyr AGA ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi creu rhaglen adnoddau addysgu-gartref wythnosol am ddim i rieni, ac mae cangen iechyd a ffitrwydd y Brifysgol, Met Active, ynghyd â’r tîm chwaraeon proffesiynol, wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i symud gyda fideos dyddiol a thiwtorialau ymarfer corff ar gyfer pob lefel gallu.

Mae myfyrwyr Meddygaeth ar y cwrs Graddedigion ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig gofal plant brys i staff y GIG, a fydd yn caniatáu iddynt barhau i gynnig gofal rheng flaen. Mae’r myfyrwyr i gyd wedi cael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae ganddynt sgiliau cynnal bywyd pediatreg. Mae tîm o wyth myfyriwr yn rhedeg y cynllun ochr yn ochr â mwy na 90 o fyfyrwyr sydd wedi cynnig eu hamser yn wirfoddol hyd yn hyn. Ond maen nhw’n dweud bod y nifer dan sylw yn tyfu’n gyflym wrth i’r gair ledaenu am y fenter.

Bydd y mathau hyn o weithgareddau yn rhan o ffocws ehangach ar waith cenhadaeth ddinesig prifysgolion gan Brifysgolion Cymru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Rosie Pretorius – Swyddog Prosiect Cenhadaeth Ddinesig rosie.pretorius@uniswales.ac.uk.