Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno gweithgarwch cyfathrebu sy'n ymwneud â rhaglen Cymru Fyd-eang, gan gynnwys y brand 'Astudio yng Nghymru'.

Mae Cymru Fyd-eang yn darparu ymagwedd strategol, gydweithredol at addysg ryngwladol yng Nghymru, gan ddod â phrifysgolion a sefydliadau partner ynghyd y tu ôl i un strategaeth er mwyn cynyddu recriwtio myfyrwyr rhyngwladol a chyfleoedd ar gyfer partneriaeth, yn ogystal â thyfu proffil Cymru mewn marchnadoedd rhyngwladol allweddol.

Bydd y Swyddog Cyfathrebu’n gyfrifol am gyflwyno rhaglen gyfathrebu ryngwladol a domestig effeithiol ar gyfer Cymru Fyd-eang, â’r nod o gynorthwyo â’r gwaith o gyflawni’r rhaglen graidd yn ogystal â rheoli cyfathrebiadau corfforaethol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25ain Mawrth

Gallwch ganfod mwy a gwneud cais