Nod y cynllun yw hwyluso rhannu adnoddau a chymorth mewn arwydd o undod a chefnogaeth i helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr yn yr Wcráin. 

Bydd prifysgolion Cymru yn cyfrif am 10% o’r cynllun, gyda chyfanswm o 71 o bartneriaethau’n cael eu sefydlu ar draws y DU.

Bu 100 o academyddion ac arweinwyr prifysgolion yn dathlu’r cynllun ‘gefeillio’ arloesol rhwng y DU a’r Wcráin mewn digwyddiad yn gynharach heddiw, lle arwyddodd 24 o sefydliadau bartneriaeth ffurfiol.

Mae’r prifysgolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun hyd yma yn cynnwys Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Caerdydd, sydd hefyd ag ail bartneriaeth ar waith drwy ei Hysgol Feddygaeth.

Bydd y cynllun gefeillio’n darparu pecyn eang o gymorth i brifysgolion, myfyrwyr a staff yn yr Wcráin, gan gynnwys:

  • Helpu i ail-godi adeiladau ar gampysau prifysgolion yn yr Wcráin sydd wedi'u difrodi a'u dinistrio. 
  • Cydnabod credydau fel y gall myfyrwyr o’r Wcráin sy'n siarad Saesneg ddilyn cyrsiau ar-lein o brifysgolion y DU sy'n cyfrif tuag at eu gradd derfynol. 
  • Caniatáu i addysgu ac ymchwil Wcráin barhau mewn labordai ac ystafelloedd dosbarth yn y DU mewn amgylchiadau lle cafodd eu cyfleusterau eu hunain eu dinistrio neu eu difrodi. 
  • Hwyluso rhannu adnoddau academaidd megis llyfrgelloedd ac offer technegol. 
  • Diogelu archifau o’r Wcráin yn sefydliadau'r DU; hwyluso mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol ac ieithyddol. 
  • Rhannu cymorth iechyd meddwl – yn enwedig ar gyfer staff a myfyrwyr o’r Wcráin sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) oherwydd y rhyfel.  
  • Caniatáu i fyfyrwyr o’r Wcráin 'ddal i fyny' ar y dysgu y maent wedi'i golli mewn ysgolion haf a gynhelir mewn sefydliadau yn y DU. 

Bydd y cynllun yn helpu i arbed y wlad rhag colli pobl ddawnus a sicrhau bod prifysgolion yr Wcráin nid yn unig yn goroesi ond yn dod yn gryfach ar ôl y rhyfel, gan ganiatáu iddynt chwarae rhan hanfodol yn yr adferiad a’r gwaith o ailadeiladu ar ôl y rhyfel. 

Fe'i cydlynwyd gan Grŵp Ymgynghorol Cormack (CCG) gyda chefnogaeth Cangen Ryngwladol Prifysgolion y DU (UUKi), gan dynnu ar arbenigedd pob grŵp o ran anghenion sefydliadau yn yr Wcráin a gweithgareddau allgymorth rhyngwladol prifysgolion y DU.

Yng Nghymru, mae Cymru Fyd-eang wedi addo cyllid o hyd at £15,000 ar gyfer pob prifysgol i hwyluso’r partneriaethau. Er y bydd y cynllun hwn yn darparu cymorth tymor-byr i sefydliadau yn yr Wcráin, y gobaith yw y bydd hefyd yn ddechrau ar bartneriaethau cydweithredol hirdymor rhwng y prifysgolion dan sylw.

Meddai Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg:

“Mae Cymru’n gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi pobol yr Wcráin drwy’r cyfnod anodd hwn. Does dim ffiniau i addysg ac rwy’n falch iawn o weld ein prifysgolion yng Nghymru’n estyn llaw cyfeillgarwch i’w cydweithwyr yn yr Wcráin.”

Meddai’r Athro Maria Hinfelaar, Is-Gadeirydd Prifysgolion Cymru:

“Mae prifysgolion y DU yn condemnio’n ddiamwys y goresgyn diesgus ac anghyfreithlon gan Rwsia o diriogaeth yr Wcráin. Rwy’n falch o weld prifysgolion yng Nghymru’n cymryd rhan yn y cynllun hynod bwysig hwn, a fydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth hanfodol i sefydliadau, staff a myfyrwyr yn yr Wcráin, gan eu galluogi i barhau â’u gwaith o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.

“Mae’r partneriaethau hyn yn dyst i’r cymunedau byd-eang yr ydym yn byw ynddynt a’n gwerthoedd ar y cyd o ran ceisio gwybodaeth a syniadau, a’r rôl y mae addysg uwch yn ei chwarae ar draws cymdeithas.

“Mae prifysgolion yng Nghymru’n sefyll yn unedig gyda’r Wcráin, a’n gobaith yw mai’r cynllun hwn yw’r cam cyntaf mewn perthynas hir rhwng ein dwy wlad.”

Nodiadau

  1. Mae Cynllun Gefeillio Prifysgolion Wcráin yn fenter ar draws y DU gyfan a lansiwyd gan Cormack Consultancy Group ac Universities UK International. Cadarnhawyd 24 o bartneriaethau newydd heddiw, gan ddod â chyfanswm y partneriaethau a gadarnhawyd i 71, gydag 8 partneriaeth arall bron â chyrraedd cytundeb ffurfiol. Y prifysgolion yng Nghymru a arwyddodd heddiw oedd: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae rhestr gyflawn o sefydliadau sy’n cymryd rhan i'w gweld ar wefan UUK.