Drwy feithrin cysylltiadau allweddol mewn ymchwil gymhwysol, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, a datblygu'r cwricwlwm, mae'r bartneriaeth gyda'r Adran Seicoleg yn dangos ymrwymiad PDC i ddarparu profiadau dysgu ac addysgu sy’n seiliedig ar her ac i adeiladu partneriaethau allanol er mwyn gwella llesiant yn y gymuned. 

O dan delerau'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, bydd y naill garfan a’r llall yn ymrwymo i gefnogi gwaith myfyrwyr Seicoleg a phrosiectau ymchwil cydweithredol. Maent eisoes yn gweithio tuag at y trefniadau cydweithredol canlynol:

  • Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) wedi ariannu dau brosiect ymchwil
  • Cyd-greu’r cwrs MSc Trosi Seicoleg newydd (cyflwyno ar-lein)
  • Mae myfyrwyr israddedig wrthi’n gwerthuso prosiect Linc Cymru a mudiad Plant yng Nghymru
  • Mae PDC yn darparu therapi cerdd o fewn cynllun Gofal Ychwanegol Linc.