Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn argymell bod mamau'n bwydo eu babanod ar y fron am o leiaf dwy flynedd. Fodd bynnag, erbyn chwe mis oed, dim ond 34% o fabanod y DU sy'n dal i gael eu bwydo ar y fron. Mae cyfraddau ychydig yn uwch yn UDA (52%) ac Awstralia (60%) ond maent yn dal i fod ymhell islaw argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd.

Er mwyn gwella canlyniadau iechyd y boblogaeth a lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd, rhaid inni ddeall pam mae cyfraddau bwydo ar y fron mewn rhai gwledydd mor isel.

Canfu ymchwil flaenorol fod cymorth ymarferol o ansawdd uchel yn hanfodol i lwyddiant bwydo ar y fron. Fodd bynnag, hyd yn oed lle mae'r cymorth hwn ar gael, nid oedd cyfraddau bwydo ar y fron yn cynyddu. Roedd yr Athro Amy Brown o Brifysgol Abertawe eisiau darganfod pa gymorth ychwanegol fyddai'n helpu.

Datguddio Bwydo ar y Fron

Archwiliodd yr Athro Brown ganfyddiadau a phryderon menywod ynghylch bwydo eu babanod. Canfu hi fod: 

  • mamau'n teimlo bod babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn deffro ac yn bwydo'n rhy aml, yn enwedig gyda'r nos
  • roedd rhieni eisiau mwy o wybodaeth a chymorth ymarferol ar batrymau bwydo ac ymddygiad normal babanod
  • yn aml nid oedd arferion bwydo a chysgu yn gweithio ac yn lle hynny roedd gorbryder mamau’n cynyddu, gan eu harwain yn aml i roi'r gorau i fwydo ar y fron
  • nid oedd unrhyw gysylltiad rhwng pa mor aml y byddai babanod yn deffro yn y nos a ph’un a oeddent yn cael eu bwydo ar y fron neu â llaeth fformiwla.

Defnyddiodd yr Athro Brown ganfyddiadau ei hymchwil i greu'r ymgyrch iechyd y cyhoedd Datguddio Bwydo ar y Fron. Fel rhan o’r ymgyrch, cyhoeddodd yr Athro Brown lyfr a chanllaw bwydo ar y fron i rieni, yn ogystal â thraddodi sgyrsiau i rieni, gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi ledled y byd.

Creodd hefyd chwe animeiddiad o ganfyddiadau'r ymchwil, wedi'u cynllunio i dawelu meddwl rhieni am ymddygiad arferol babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron a'u helpu i barhau i fwydo ar y fron.

Cynhaliwyd ymgyrch ar y cyfryngau yn fyd-eang i hyrwyddo'r ymchwil, gan gynnwys pennod o raglen Dispatches, Channel 4.

Cafodd yr ymgyrch Datguddio Bwydo ar y Fron effaith sylweddol ar bolisi ac arfer proffesiynol a gwnaeth helpu mamau i fwydo ar y fron yn hirach.

Grymuso mamau i fwydo ar y fron
Mewn arolwg o dros 1,000 o famau a edrychodd ar animeiddiadau'r ymgyrch, rhoddodd 90% y clod iddynt am eu galluogi i fwydo ar y fron yn hirach. Ers dechrau’r ymgyrch, mae canran y mamau sy’n parhau i fwydo ar y fron ar ôl wyth wythnos wedi cynyddu, sy’n cyfateb i 36,000 yn fwy o fabanod na 5-7 mlynedd yn ôl yn cael eu bwydo ar y fron yn 6-8 wythnos oed.

Hyrwyddo polisi bwydo ar y fron byd-eang
Llywiodd yr ymgyrch bolisïau bwydo babanod ledled y byd. Yn y DU, mae ymchwil yr Athro Brown wedi'i chynnwys yng nghanllawiau NICE wedi'u diweddaru ac mae'n sail i adolygiad UNICEF y DU sy'n nodi safonau gofal ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.

Yn fyd-eang, mae ymchwil yr Athro Brown wedi helpu Adran Iechyd Awstralia i ddiweddaru ei strategaeth bwydo ar y fron genedlaethol, ac mae'n sail i Fenter Ryngwladol Sefydliad Iechyd y Byd - Ysbytai sy’n Ystyriol o Fabanod, i hyrwyddo a chefnogi bwydo ar y fron.

Cefnogi dysgu ac ymarfer proffesiynol
Mae dros 10,000 o weithwyr proffesiynol ledled y byd wedi cael mynediad at sgyrsiau achrededig datblygiad proffesiynol parhaus yr Athro Brown ac mae ei llyfr Breastfeeding Uncovered yn destun craidd ar gyfer cynghorwyr bwydo ar y fron dan hyfforddiant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant.

Yn y DU, mae mwy na 200 o fyrddau iechyd a chynghorau yn defnyddio'r animeiddiadau ymchwil ym maes hybu iechyd y cyhoedd a hyfforddiant. Yn fyd-eang, cânt eu defnyddio gan sefydliadau bwydo ar y fron yn UDA, Awstralasia, De Affrica ac Ewrop ac fel rhan o becyn hyfforddi Sefydliad Iechyd y Byd mewn rhanbarthau datblygol, gan gynnwys Sierra Leone.

Y tîm ymchwil

Yr Athro Amy Brown – Prifysgol Abertawe

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn