Nid yw mudo yn newydd. Mae pobl bob amser wedi gadael eu cartrefi i chwilio am ddiogelwch a bywyd gwell. Heddiw, mae mudo a dadleoli yn gyffredin. Bob dydd, mae pobl yn peryglu eu bywydau i ddianc rhag gwrthdaro, ansefydlogrwydd gwleidyddol ac economaidd, ac effaith newid hinsawdd. 

Aeth tîm ymchwil y Brifysgol Agored ati i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o fudwyr a chynyddu eu diogelwch trwy wella mynediad at newyddion a gwybodaeth ddibynadwy. Roedd ymchwil y Brifysgol Agored wedi nodi’n flaenorol bod ceiswyr lloches yn aml yn cael eu hamlygu i wybodaeth anghywir a hanesion camarweiniol o fywyd fel mudwr wedi’u lledaenu gan fasnachwyr mewn pobl a smyglwyr pobl, er eu bod yn derbyn y rhan fwyaf o wybodaeth gan ffynonellau dibynadwy ffrindiau a theuluoedd.

Gwnaeth y tîm ymchwil fel a ganlyn: 

  • datblygu fframwaith ymchwil amlranddeiliaid i bontio’r bylchau mewn dealltwriaeth a gwerthoedd rhwng llunwyr polisi, sefydliadau a gwasanaethau cymorth i ffoaduriaid, a mudwyr
  • tynnu sylw at rôl ddiplomyddol a diwylliannol darlledwyr rhyngwladol, a oedd yn gallu cyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd tramor i hysbysu mudwyr yn well cyn iddynt adael
  • cydweithio â’r Comisiwn Ewropeaidd, darlledwyr rhyngwladol a sefydliadau cymorth i ffoaduriaid i greu llwyfan amlieithog newydd ar gyfer mudwyr yn cynnwys newyddion a gwybodaeth ddibynadwy am fudo 

Mae ymchwil y tîm wedi gwneud y canlynol:  

Arwain at well mynediad at newyddion a gwybodaeth ddibynadwy 
Arweiniodd ymchwil y tîm at y Comisiwn Ewropeaidd yn dyfarnu €15 miliwn i gonsortiwm o ddarlledwyr Ewropeaidd i redeg gwefan InfoMigrants. Hyd yma, mae'r wefan wedi cyrraedd 54.3 miliwn o ddefnyddwyr mewn pum iaith ac wedi lleihau dibyniaeth mudwyr ar wybodaeth anghywir a newyddion ffug ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Gwell cyfathrebu rhyngwladol gyda mudwyr ac amdanynt 
Bu’r tîm yn cydweithio â Merched y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad yr Iorddonen, a arweiniodd at newidiadau mewn polisi ac arfer ar gyfer mynediad, defnydd a chynhwysiant digidol, at ddibenion cyfranogiad dinesig ac ymgysylltu â’r gymuned.  

Newid canfyddiadau'r cyhoedd o fudwyr a darparu llwyfan iddynt 
Cyfrannodd y tîm ymchwil wybodaeth, gwirio ffeithiau, cyngor moesegol ac adborth i dîm cynhyrchu cyfres ddogfen y BBC Exodus: Our Journey to Europe. Gwelwyd y rhaglenni gan fwy na 4.3 miliwn o bobl yn y DU a newidiodd ganfyddiadau cynulleidfaoedd: “Arwyr y rhaglen ddogfen yw Akkad a’r ffoaduriaid eraill […] mae eu dewrder wedi helpu i greu’r cyfrif mwyaf pwerus a theimladwy o’r argyfwng ffoaduriaid hyd yma.”  

Cyfrannodd y tîm ymchwil at y rhaglen gyfnewid Who Are We? gan y Tate, a oedd yn seiliedig ar y cysyniad o ddinasyddiaeth ddiwylliannol. Dywedodd un ymwelydd, “Yn bendant, gwnaeth ehangu fy nealltwriaeth o bobl sydd wedi’u dadleoli gan ryfel a dyfnhau fy nhrugaredd tuag atynt.” 

Creodd y tîm adnodd digidol hefyd, Covid Chronicles from the Margins, mewn ymateb i'r problemau a'r cyfleoedd a achoswyd gan y pandemig i fudwyr. Dywedodd cynrychiolydd o grŵp cymorth i geiswyr lloches, “Mae’n anghyffredin i ffoaduriaid ddod o hyd i blatfform o’r fath […]. Mae'n archif byw o'r foment ryfeddol hon [a] bydd yn para am byth fel darn o hanes llafar a oedd yn hyrwyddo hawliau ceiswyr lloches.” 

Gwell mynediad at addysg a dysgu

Cynigiodd y Brifysgol Agored yng Nghymru gyfres o weithdai rhyngweithiol ar-lein yn ystod y pandemig ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru a ddarparodd wybodaeth am ddeunyddiau dysgu ar-lein o ansawdd uchel am ddim a oedd yn gwella mynediad i addysg a dysgu.

Sylwer: Mae'r term ‘mudwr’ yn yr astudiaeth achos hon yn cyfeirio at ffoaduriaid, ceiswyr lloches, alltudion a grwpiau heb eu dogfennu. 

Y tîm ymchwil 

Yr Athro Marie Gillespie a'r Athro Umut Erel – Y Brifysgol Agored 

Partneriaid ymchwil 

Y Comisiwn Ewropeaidd, y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC), France Medias Monde, DEUTSche Welle

Darllenwch astudiaeth achos REF ar effaith yn llawn